Cymeradwyaeth Aur ar gyfer bwyd yn ysgolion Conwy
Mae’r fwydlen cinio ysgol bresennol a weinir tan y Pasg wedi derbyn Tystysgrif Cydymffurfiaeth Cymeradwyaeth Aur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg: “Dyma’r tro cyntaf i Wasanaeth Arlwyo Conwy wneud cais am y dystysgrif cydymffurfiaeth, ac mae’n bleser derbyn Cymeradwyaeth Aur am y bwyd a diod a weinir.
“Gall y bwyd a weinir mewn ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol at roi diet iach a chytbwys i blant a phobl ifanc a’u hannog i ddatblygu arferion bwyta iach.”
Mae’n rhaid i’r bwyd a’r diodydd a ddarperir ym mhob ysgol a gynhelir fodloni Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2013. Mae’r rheoliadau’n nodi safonau maeth a gwerthoedd egni a maetholion ar gyfer gofynion bwyd a diodydd yn ystod y diwrnod ysgol.
Ymwelwch â Bwyd mewn Ysgolion am ragor o wybodaeth am y bwyd yn ein hysgolion.
Wedi ei bostio ar 14/11/2023