Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Great Orme Tramway Community Weekend

Penwythnos Cymunedol Tramffordd y Gogarth


Summary (optional)
start content

Penwythnos Cymunedol Tramffordd y Gogarth

Mae Tramffordd y Gogarth yn cynnal ei 5ed Penwythnos Cymunedol ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Medi.

Gall preswylwyr sir Conwy fyd ar y Dramffordd am hanner pris, gan ddefnyddio gostyngiad unigryw i drigolion lleol.

Bob blwyddyn, mae’r atyniad llwyddiannus hwn yn cario tua 200,000 o bobl o bob cwr o’r byd i ymweld â Phen y Gogarth. Dyma’r unig dramffordd yn y DU sy’n cael ei thynnu gan geblau ar hyd ffordd gyhoeddus, ac mae’n un o dair yn unig sydd ar ôl yn y byd.

Dywedodd Luke, Rheolwr y Dramffordd: “Mae’r Penwythnos Cymunedol yn dod yn draddodiad yn gyflym iawn, ac mae’n un o’n hoff ddyddiau’r tymor. Rydym wrth ein boddau’n gweld pobl leol yn mwynhau’r atyniad hanesyddol unigryw hwn sydd ar garreg ein drws.”

“Wrth fyw yng Nghonwy, gall fod yn hawdd cymryd y golygfeydd a’r atyniadau yn ganiataol. Eleni, mae’r Dramffordd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 122 oed, wedi cael ei rhestru yn un o’r 10 atyniad treftadaeth glan môr gorau ac wedi cael sylw yn y Great Coastal Railway Journeys gan Michael Portillo.”

Bydd tocynnau dwyffordd i drigolion lleol ar y Penwythnos Cymunedol yn £5.25 i oedolion a £3.75 i blant rhwng 3 ac 16 oed. Gall plant dan dair oed deithio am ddim a bydd cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn cael eu tocyn dwyffordd eu hunain am £1.50.

Bydd angen i drigolion ddod â phrawf o'u cyfeiriad yn Sir Conwy i fod yn gymwys ar gyfer y cynnig.

Mae’r Dramffordd ar agor o 10am tan 6pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd y tram olaf yn gadael y copa am 5:40.

 

Wedi ei bostio ar 20/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content