Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dweud Eich Dweud ar Ddyfodol Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

Dweud Eich Dweud ar Ddyfodol Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Dweud Eich Dweud ar Ddyfodol Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

NWA logo

Uchelgais Gogledd Cymru

Gall teithio o amgylch Gogledd Cymru fod yn her. Fel rhanbarth wledig gyda rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd yn aml o dan bwysau, nid oes llawer o amheuaeth bod angen gwella trafnidiaeth a chysylltedd lleol. Mae ymgynghoriad cyhoeddus 12-wythnos wedi'i lansio, sy’n rhoi’r cyfle i breswylwyr, busnesau, ac  ymwelwyr siapio dyfodol teithio yn y rhanbarth.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Cyd-Bwyllgor Corfforedig y rhanbarth – gyda chyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol a gwella lles economaidd, yn gwahodd adborth ar gynllun drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae'r ddogfen yn nodi polisïau ac ymyriadau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gwmpasu pob dull o deithio, gan gynnwys rheilffordd, ffyrdd, bws, cerdded a beicio, gyda’r nod o ddarparu gwell opsiynau teithio, gwella cysylltedd digidol, a lleihau effeithiau amgylcheddol.

Mae'r ymgynghoriad yn cynrychioli ymdrechion ac arbenigedd Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, ei Is-bwyllgor Trafnidiaeth a'i bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth: "Mae hwn yn gyfle i bobl ddweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw a sut y gallwn ni wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Mae systemau trafnidiaeth effeithiol yn cysylltu pobl â gwasanaethau hanfodol, yn cysylltu busnesau â gweithwyr a chwsmeriaid, ac yn cefnogi economi ffyniannus. Rwy'n annog preswylwyr i gymryd rhan a dweud eu dweud."

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Is-gadeirydd y Pwyllgor y canlynol: "Mae cysylltiadau trafnidiaeth dda yn hanfodol i'n cymunedau. Maen nhw’n lleihau unigedd mewn ardaloedd gwledig, yn gwella mynediad at wasanaethau fel gofal iechyd ac addysg, ac yn rhoi hwb i economïau lleol drwy ddenu ymwelwyr a chefnogi busnesau bach. Dyna pam rydyn ni’n awyddus i gael cymaint o fewnbwn â phosibl fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i greu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb ar draws y rhanbarth."

Nod y cynllun yw llunio polisi a buddsoddiad trafnidiaeth hyd at 2030, gan ddisodli cynlluniau trafnidiaeth leol presennol er mwyn  cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol. Mae'n cael ei ystyried yn hanfodol i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cwrdd â heriau economaidd yn y dyfodol, yn cefnogi teithio cynaliadwy, ac yn cyfrannu at amcanion hinsawdd.

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan 14 Ebrill 2025 – gyda chais i drigolion Gogledd Cymru i beidio â cholli'r cyfle i ddylanwadu ar ddyfodol trafnidiaeth yn y rhanbarth drwy ymweld â: https://bit.ly/CTRhGCymgysylltu-rhithwir
Wedi ei bostio ar 22/01/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content