Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Have your say on Council Tax premiums for second homes and long-term empty homes in Conwy County

Dweud eich dweud am bremiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Conwy


Summary (optional)
start content

Dweud eich dweud am bremiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Conwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal arolwg ynghylch codi premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor ar gyfer 2025/26.

Pwrpas y premiwm yw annog perchnogion i wneud defnydd o eiddo gwag a chynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar werth neu ar osod mewn cymunedau lleol.  

Mewn cyfarfod ym mis Hydref 2023, bu i’r cynghorwyr gymeradwyo cynnydd dangosol yn lefel y premiwm ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor o 100% i 200% o 1 Ebrill 2025, yn amodol ar adolygiad yn ystod 2024/25. Byddai unrhyw eiddo sydd wedi bod yn wag am 5 mlynedd neu fwy yn amodol ar bremiwm o 300%.

Mae’r Cyngor yn cysylltu’n uniongyrchol â phawb yn y Sir sydd wedi cofrestru fel bod yn berchen ar ail gartref neu gartref gwag i ofyn am eu barn.  Maent hefyd yn gofyn i bobl nad ydynt yn berchen ar y mathau hyn o eiddo i roi eu barn.  Gall unrhyw un lenwi’r arolwg a rhoi gwybod i’r Cyngor beth, yn eu barn nhw, fydd effaith posibl y premiymau ychwanegol hyn ar bethau fel argaeledd eiddo, y farchnad dai a’r Gymraeg.

Mae’r Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy sy’n cynnwys y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau, yn annog pobl i roi eu barn i’r Cyngor.  Dywedodd, “Rydym eisiau annog perchnogion i ailddefnyddio eiddo gwag i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi yn ein cymunedau.  Mae llawer o’r eiddo hyn ym Mandiau Treth y Cyngor A-D, ac felly yn yr amrediad mwy fforddiadwy.  Nid yw’n ymwneud â chynyddu incwm - unwaith y bydd eiddo gwag yn cael ei ailddefnyddio, ni fydd y premiwm ychwanegol yn berthnasol.  Mae unrhyw incwm ychwanegol sy’n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi’r pwysau ar gyllideb tai’r Cyngor.”

Bydd canlyniadau’r arolwg ac ymchwil arall yn cael ei ystyried gan y Cynghorwyr yn ddiweddarach eleni pan fyddant yn ystyried y penderfyniad terfynol am ba bremiwm fydd yn berthnasol.

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 18 Awst ac mae ar gael yma: Ymgynhoriad Premiwm Treth y Cyngor - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 18/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content