Dweud eich dweud am economi'r nos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal arolwg am ddarparu economi gyda’r nos diogel a chynaliadwy yn y sir.
Mae economi’r nos yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a gynhelir ar ôl 6pm a chyn 6am, fel bwyta allan mewn bwyty neu fynd i ddigwyddiad neu gyngerdd.
Mae’r arolwg yn rhan o brosiect ehangach sy’n edrych ar wella a diogelu economi ymwelwyr Conwy i’r dyfodol. Mae’r Cyngor yn awyddus i gynnwys ymwelwyr, preswylwyr a busnesau. Mae’r Cyngor yn chwilio am farn pobl am yr heriau a’r cyfleoedd posib’, ac unrhyw syniad neu awgrym o ran sut hoffan nhw i’r economi gyda’r nos edrych.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i greu strategaeth a chynllun gweithredu a fydd yn cysylltu â nodau ac amcanion Cynllun Cyrchfan Conwy a Strategaeth Twf Economaidd Sir Conwy.
Meddai’r Cyng. Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy: “Rydym ni’n awyddus i glywed barn a syniadau pobl am yr economi gyda’r nos yn y sir. Rydym ni’n gobeithio casglu cymaint o wybodaeth â phosib’, ac rydym ni eisoes wedi ymgynghori gyda busnesau a Chynghorau Tref a Chymuned. Mae arnom ni eisiau helpu’r sir i greu economi ffyniannus, fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol, ac rydym ni’n awyddus i gael strategaeth ar gyfer economi’r nos sy’n gallu cyfrannu at hynny.”
Mae’r arolwg ar gael tan 21 Gorffennaf, a gellir cael mynediad ato ar-lein: www.dewchigonwy.org.uk/porth-busnes/dweud-eich-dweud-am-economi-gyda-r-nos-sir-conwy
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch twristiaeth@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575970.
Wedi ei bostio ar 11/07/2024