Ymgynghoriad ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol
Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau a’r Cabinet i ystyried adborth o’r ymgynghoriad ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol.
Yn gynharach eleni, gofynnodd Gwasanaeth Addysg Conwy i ddisgyblion, rhieni a’r cyhoedd am eu barn ar gludiant o'r cartref i'r ysgol dewisol.
Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau heddiw (16 Gorffennaf) ac yna i’r Cabinet ar 23 Gorffennaf.
Bydd gofyn i Gynghorwyr ystyried y newidiadau a argymhellir i’r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.
Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg, “Cawsom ymateb ardderchog i’r ymgynghoriad. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran - mae’r sylwadau manwl a ystyriwyd yn ofalus wedi helpu i lywio’r ffordd y byddwn yn diweddaru ein Polisi.”
Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau - Gellir darllen yr adroddiad a’r atodiadau a gwylio’r cyfarfod yma: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024, 5.00 pm
Cabinet: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024, 10.00 am
Wedi ei bostio ar 16/07/2024