Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgynghoriad ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Ymgynghoriad ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol


Summary (optional)
start content

Ymgynghoriad ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau a’r Cabinet i ystyried adborth o’r ymgynghoriad ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol.

Yn gynharach eleni, gofynnodd Gwasanaeth Addysg Conwy i ddisgyblion, rhieni a’r cyhoedd am eu barn ar gludiant o'r cartref i'r ysgol dewisol.

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau heddiw (16 Gorffennaf) ac yna i’r Cabinet ar 23 Gorffennaf.

Bydd gofyn i Gynghorwyr ystyried y newidiadau a argymhellir i’r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.

Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg, “Cawsom ymateb ardderchog i’r ymgynghoriad.  Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran - mae’r sylwadau manwl a ystyriwyd yn ofalus wedi helpu i lywio’r ffordd y byddwn yn diweddaru ein Polisi.”

 

Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau - Gellir darllen yr adroddiad a’r atodiadau a gwylio’r cyfarfod yma: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024, 5.00 pm

Cabinet: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024, 10.00 am

Wedi ei bostio ar 16/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?