Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Islamophobia Awareness 2024

Ymwybyddiaeth Islamoffobia 2024


Summary (optional)
start content

Ymwybyddiaeth Islamoffobia 2024

Wrth i Fis Ymwybyddiaeth Islamoffobia ddirwyn i ben, mae Aelod Cabinet Archwilio, Polisi a Pherfformiad Conwy yn ein hannog ni i gyd i herio’r ystrydebau ynghylch Islam a Mwslimiaid a hyrwyddo undod yn ein cymunedau.

Pob mis Tachwedd, mae Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia yn gyfle i ni sefyll i fyny yn erbyn y casineb gwrth-Fwslim sy’n cael ei brofi gan unigolion a grwpiau.

Mae Mwslimiaid yn fwy o darged i droseddau casineb nac unrhyw grŵp crefyddol arall* ac maent yn aml yn cael eu cynrychioli’n negyddol drwy wybodaeth anghywir. Mae’r rhagfarnau hyn yn arwain at wahaniaethu, allgau a thrawma meddyliol a chorfforol.

Yn ogystal â Mwslimiaid, caiff pobl sy’n cael eu “hystyried” fel Mwslim - boed hynny oherwydd eu hiaith, eu dillad neu liw eu croen, hefyd eu heffeithio gan Islamoffobia a chasineb gwrth-Fwslim.

Meddai’r Cyng. Cater: “Rydym ni wedi ymrwymo i greu cymuned ddiogel a chynhwysol i bawb. Rydym ni wedi cymryd y cyfle fis yma i rannu gwybodaeth gyda’n staff ynglŷn â sefydliadau cymorth yn ogystal â chamau y gall pob un ohonom ni eu cymryd i helpu i fynd i’r afael ag Islamoffobia.

Y thema eleni oedd “Hadau Newid”, a oedd yn amlygu y gall hyd yn oed camau bychain helpu i greu cymdeithas fwy cynhwysol i bawb. 

Gall pob un ohonom chwarae ein rhan er mwyn meithrin dealltwriaeth, tosturi a pharch a dathlu cyfraniadau hanfodol Mwslimiaid ledled Cymru a’r DU. 

Boed hynny trwy roi o’ch amser i ddysgu mwy, dechrau sgwrs neu herio safbwyntiau negyddol rhywun, gall pob un ohonom ddod yn hadau newid.

Fel bod modd i ni fyw mewn cymdeithas sy’n ffynnu, lle nad oes unrhyw elfen o Islamoffobia na gwahaniaethu.

Ceir rhagor o wybodaeth am Islamoffobia a Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia yn: Islamophobia Awareness Month

Mae Tell MAMA yn cefnogi dioddefwyr casineb gwrth-Fwslim ac yn wasanaeth cyhoeddus sy’n mesur ac yn monitro digwyddiadau gwrth-Fwslim

 

*Hate crime, England and Wales, year ending March 2024 - GOV.UK

Wedi ei bostio ar 29/11/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?