Gwaith Amddiffynfeydd Arfordirol - Bae Kinmel
Rydym wedi dechrau gwaith i wella amddiffynfeydd arfordirol Bae Cinmel o Barc Carafanau Golden Sands i Barc Carafanau Sunny Vale.
Mae’r gwaith yn gymhleth ac mae’n rhaid gwneud rhywfaint ohono pan fo’r môr ar drai, sy’n golygu rhywfaint o waith gyda’r nos ac yn gynnar yn y bore.
Gall y gweithwyr fod yno am 5am ar rai diwrnodau neu orffen am 10pm. Fodd bynnag, ni fydd gwaith cyson rhwng yr amseroedd hyn – rydym ni’n gweithio o gwmpas un llanw isel y diwrnod yn unig.
Bydd amserlen o’r gwaith ar ddangos yn y cwt gwybodaeth ym maes parcio St Asaph Avenue – sydd ar agor o 8am tan 5pm ddydd Llun i ddydd Gwener.
Wedi ei bostio ar 02/12/2024