Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Latest round of Conwy Food Partnership funding

Rownd ddiweddaraf o gyllid Partneriaeth Bwyd Conwy


Summary (optional)
start content

Rownd ddiweddaraf o gyllid Partneriaeth Bwyd Conwy

Ydi eich ysgol, sefydliad neu grŵp cymunedol yn cynnal digwyddiad neu weithgaredd sy’n ymwneud â bwyd?

Gwahoddir ceisiadau rŵan ar gyfer y rownd ddiweddaraf o gyllid Partneriaeth Bwyd Conwy.  Mae’n bosib bod grantiau hyd at £2000 ar gael ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau sy’n dod â chymunedau ynghyd trwy fwyd maethlon.

Mae Partneriaeth Bwyd Conwy yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n dod â budd-ddeiliaid amrywiol at ei gilydd ac yn annog cydweithio i sicrhau system fwyd cryfach yng Nghonwy. Nod y bartneriaeth yw lleihau milltiroedd bwyd, rhoi mwy o fynediad at fwyd iach a fforddiadwy i bawb, a grymuso cymunedau gyda gwybodaeth a sgiliau fel eu bod yn teimlo'n hyderus wrth dyfu, prynu a choginio cynnyrch lleol maethlon, a deall manteision gwneud hynny.

Mae’r Bartneriaeth eisoes wedi cefnogi sawl menter yn cynnwys prosiectau garddio mewn ysgolion, sesiynau coginio a bwyta a gerddi cymunedol.

Bydd grantiau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymwys yn cael eu dyfarnu ar sail y cyntaf i’r felin. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 7 Awst 2024 ac bydd angen darparu’r prosiectau cyn 31 Hydref 2024.

Anfonwch e-bost at liz.gordon@conwy.gov.uk i wneud ymholiad ac i ofyn am ffurflen gais.

Am fwy o wybodaeth am Bartneriaeth Fwyd Conwy, ewch i: Partneriaeth Fwyd Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 19/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content