Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Live Music and volunteering opportunities across Conwy this Winter

Cerddoriaeth fyw a chyfleoedd gwirfoddoli ar draws Conwy y gaeaf hwn


Summary (optional)
start content

Cerddoriaeth fyw a chyfleoedd gwirfoddoli ar draws Conwy y gaeaf hwn

Bydd Gigs y Gaeaf, cyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw, yn dechrau fis Hydref!  Gan ddatblygu ar lwyddiant gŵyl 2022, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol a lleoliadau i ddod â’r doniau cerddoriaeth lleol a chenedlaethol gorau i lwyfan sy’n agos atoch chi!  Bydd cyhoeddiad cyn hir am ddigwyddiadau Gigs y Gaeaf, fydd am ddim neu am gost isel.

Mae cyfle i bobl gymryd rhan trwy’r prosiect gwirfoddoli, Amdani! Conwy!  Dywedodd Rheolwr y Rhaglen Wirfoddoli, Jasmine Pilling; ‘Mae’n gyffrous iawn ein bod ni’n gweithio gyda Gigs y Gaeaf! Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr 18 oed a hŷn sy’n caru cerddoriaeth ac sy’n awyddus i gwrdd â phobl newydd a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Bydd cyfleoedd yn cynnwys popeth o stiwardio mewn digwyddiadau i gynorthwyo cefn llwyfan. Byddwn ni’n cynnig hyfforddiant llawn a chefnogaeth bob cam o’r ffordd, felly nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.’

I gael rhagor o wybodaeth am Gigs y Gaeaf a’r cyfleoedd gwirfoddoli, ewch i www.diwylliantconwy.com  

Gallwch fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli yn y digwyddiadau trwy lenwi’r ffurflen ar-lein cyn 17 Medi.

Neu galwch heibio un o’r sesiynau isod i sgwrsio â thîm Amdani! Conwy:

Llyfrgell Llanrwst 10 Medi 11:00 - 16:00

Llyfrgell Abergele 12 Medi 10:00 - 16:00

Llyfrgell Llandudno 19 Medi 14:00 - 19:00

Llyfrgell Bae Colwyn 20 Medi 11:00 - 15:00

E-bost - amdani@cvsc.org.uk / Ffôn - 07743932406

Mae Gigs y Gaeaf yn un o brosiectau Strategaeth Ddiwylliannol Creu Conwy, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Wedi ei bostio ar 05/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content