Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgynghoriad wedi'i lansio

Ymgynghoriad wedi'i lansio


Summary (optional)
start content

Ymgynghoriad wedi'i lansio

Bydd ymgynghoriad ar symud llyfrgell Llandudno i adeilad estynedig Venue Cymru yn dechrau heddiw (08/08/24).

Mae Gwasanaeth yr Economi a Diwylliant Conwy yn gofyn i bobl am eu barn am symud llyfrgell Llandudno i adeilad Venue Cymru fel rhan o brosiect £10 miliwn a ariennir gan Lywodraeth y DU. 

Nod y cynnig i symud llyfrgell Llandudno i’r llawr gwaelod yn Venue Cymru yw darparu mynediad gwell i bobl ag anableddau, pobl â phroblemau symudedd neu bobl sy’n defnyddio pramiau.  Byddai gan ddefnyddwyr y llyfrgell fynediad at gyfleuster Changing Places yn yr adeilad hefyd.

Byddai oriau agor estynedig Venue Cymru yn golygu y byddai mwy o amser i bobl gael mynediad at gasgliadau’r llyfrgell trwy ddefnyddio peiriant hunanwasanaeth i fenthyg a dychwelyd llyfrau pryd bynnag fydd yr adeilad ar agor. 

Byddai desgiau gwaith i’w defnyddio am ddim, caffi ac amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol ar gael i gwsmeriaid a byddai lle pwrpasol ar y safle i ddefnyddwyr y llyfrgell barcio, gan gynnwys nifer o fannau hygyrch, mannau gwefru cerbydau trydan a rhai mannau parcio arhosiad byr am ddim.

Wrth symud, byddai’r llyfrgell yn nes at brif ardaloedd preswyl Craig y Don hefyd, a fyddai’n golygu y byddai modd i fwy o deuluoedd lleol gerdded yno’n rhwydd.

Dywedodd y Cyng. Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant, Llywodraethu a TG, “Mae’n hanfodol ein bod yn archwilio pob ffordd o helpu i ddiogelu a gwella dyfodol ein gwasanaethau. Byddwn i’n annog defnyddwyr y llyfrgell a phreswylwyr lleol i gymryd rhan a rhannu eich barn.”

Mae’r arolwg ar gael ar wefan Conwy: www.conwy.gov.uk/cy/Council/Have-your-say/Consultations/Llandudno-Library-Consultation

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur o’ch llyfrgell leol ac o’r dderbynfa yng Nghoed Pella neu ffoniwch 01492 576139.

Fe fydd yr ymgynghoriad ar agor am 6 wythnos, cyflwynwch eich barn erbyn 23/09/24.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i Gynghorwyr yn ddiweddarach i'w hystyried.

 

Cefndir:

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2024 y dyfarnwyd £10 miliwn i Venue Cymru fel rhan o gronfa sy’n ariannu prosiectau diwylliannol o bwys cenedlaethol ledled Prydain Fawr.

Ers i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud, mae tîm prosiect wedi bod yn gweithio ar gynlluniau manwl i wella’r cyfleusterau yn Venue Cymru. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU fel rhan o Achos Busnes sy’n ofynnol er mwyn cael y cyllid.

Bydd Gwasanaeth Canolfan Groeso Llandudno yn cael ei adleoli i Venue Cymru hefyd er mwyn diogelu’r gwasanaeth hwn ar adeg pan fo llawer o Awdurdodau Lleol yn cau adeiladau eu Canolfannau Croeso.

Mae Venue Cymru’n croesawu ymwelwyr o’r DU ac yn rhyngwladol bob blwyddyn, gan ddarparu dros £30 miliwn mewn budd economaidd i fusnesau lleol, yn ogystal â chynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol cyffrous i ymwelwyr a’r gymuned leol. 

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn prydlesu llawr cyntaf adeilad yng nghanol Mostyn Street ar gyfer y llyfrgell. Nid y Cyngor sy’n berchen ar yr adeilad.

Wedi ei bostio ar 08/08/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content