Dechrau gwaith ar estyniad Mynwent Llanrhos
Mae gwaith ar estyniad Mynwent Llanrhos oddi ar Ffordd Conwy wedi dechrau, a bydd yn para am bedwar mis.
Bydd y fynwent laswellt yn ymestyn i dir rhwng Ffordd Conwy a’r A470, i’r de o’r tiroedd presennol. Bydd yr estyniad newydd yn caniatáu plotiau beddi dwbl a sengl, yn ogystal â phlotiau claddu llwch.
Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys lagŵn a draeniau newydd, gwaith tirlunio a nodweddion bioamrywiaeth, gan gynnwys blychau ystlumod a blychau adar. Bydd llwybrau newydd yn cysylltu’r tiroedd presennol gyda’r rhan newydd.
Bydd cerbydau adeiladu yn cael mynediad i’r safle drwy Crogfryn Road. Bydd y llwybr cyhoeddus sy’n croesi’r safle ar gau tra bo’r gwaith yn cael ei gyflawni, ond ni fydd y gwaith yn effeithio ar fynediad i dir y fynwent.
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Gwyddom fod Mynwent Llanrhos yn cael ei thrysori fel lleoliad tawel i gofio anwyliaid. Mae’r estyniad yn sicrhau y bydd hynny’n parhau, gyda mannau claddu ar gyfer y dyfodol.”
Wedi ei bostio ar 25/07/2023