Cynllun Lliniaru Llifogydd Llansannan yn ennill gwobr
Mae Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru wedi dyfarnu Gwobr Roy Edwards i Gynllun Lliniaru Llifogydd Llansannan. Mae’r wobr yn cydnabod cynlluniau peirianneg sifil dan £5 miliwn.
Comisiynwyd y prosiect gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda’r dyluniad gan AECOM yn cael ei adeiladu gan gontractwyr lleol MWT Civil Engineering Cyf., a enwebodd y cynllun ar gyfer y wobr.
Mae cynllun Llansannan, a gwblhawyd yn ystod hydref 2022, wedi lleihau’r perygl llifogydd drwy gynyddu capasiti’r system ddraenio 70%. Roedd y gwaith yn cynnwys gosod ceuffos mwy, codi muriau llifogydd newydd a gwella sianel yr afon.
Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru.
Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Isadeiledd: “Dyma enghraifft o waith lliniaru llifogydd a fydd yn talu ar ei ganfed. Bydd y cynllun hwn yn diogelu’r gymuned am flynyddoedd i ddod. Llongyfarchiadau i’r tîm prosiect a’r contractwyr.”
Wedi ei bostio ar 02/10/2023