Ras Llwybr Llyn y Parc 24/11/24
Dydd Sul, 24 Tachwedd 2024
Dewch i ymuno â thîm addysg awyr agored Nant BH am lwybrau gwych drwy’r goedwig.
Bydd ras 5km; ras 10km sy’n arbennig o heriol, sy’n cynnwys dringfa 335 metr; a ras 2km i blant rhwng 10 ac 14 oed.
Mae’r rasys i gyd yn dechrau ac y gorffen yng Nghanolfan Nant BH, am ragor o fanylion ewch i: Digwyddiadau Nant BH
Mae Canolfan Nant BH wedi bod yn darparu cyrsiau addysg awyr agored i grwpiau ysgolion o Ogledd Cymru ers 60 mlynedd, gyda nifer o deuluoedd lleol yn rhannu atgofion gwych o’u hamser yn y Canolfannau.
Yng nghanol coedwig Gwydir, uwchben Llanrwst a Betws-y-coed, mae’r ganolfan yn bencadlys da ar gyfer digwyddiadau, gyda milltiroedd o lwybrau coedwig a llynnoedd ar ei stepen drws. Mae cyfleusterau newid ar gael, a bydd y gegin ar agor i werthu te, coffi, rholiau cynnes a chacennau i’r dorf a’r rhedwyr.
Mae lleoedd i barcio yn y Ganolfan, a maes parcio mwy o faint yn Llanrwst - cofiwch rannu ceir pan fo modd.
Gallwch gofrestru ar gyfer y ras drwy: Fabian4 - Entries and Timing ac mae’r dyddiad cau ddydd Iau, 21 Tachwedd.
Mae’r tîm yn Nant BH Rydym yn gobeithio sefydlu cyfres flynyddol o rasys a fydd yn helpu i gefnogi’r Canolfannau Addysg Awyr Agored i barhau i ddarparu cyrsiau addysg awyr agored o safon uchel i grwpiau ysgol o Ogledd Cymru.
Dilynwch ni ar Facebook: Canolfan Addysg Awyr Agored Nant BH | Llanrwst | Facebook
Wedi ei bostio ar 13/11/2024