Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Setliad Llywodraeth Leol 2025/26

Setliad Llywodraeth Leol 2025/26


Summary (optional)
start content

Setliad Llywodraeth Leol 2025/26

Budget

Setliad Llywodraeth Leol

Arweinydd Cyngor Conwy yn croesawu cyllid ychwanegol, ond yn rhybuddio y bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud o hyd.

Bydd y Cynghorwyr yn trafod y setliad dros dro yn fanwl pan fyddant yn cyfarfod fis nesaf i drafod y gyllideb ddangosol ar gyfer 2025/26.

Gan siarad cyn y cyfarfodydd hynny, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey: “Mae’r setliad gan Lywodraeth Cymru yn cyfrif am tua 70% o’r arian fydd gennym ni i’w wario ar wasanaethau y flwyddyn nesaf.  

“Fel y mae ar hyn o bryd, bydd Conwy yn derbyn cynnydd o 3.7% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru o 4.3%.

“Ac er y croesewir unrhyw gynnydd, ni fydd yn ddigon i gwrdd â’r diffyg ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu o ganlyniad i gynnydd yn y galw am wasanaethau, dyfarniadau cyflog cenedlaethol, chwyddiant prisiau, cynnydd mewn ynni a thanwydd. 

“Ar hyn o bryd rydym yn amcangyfrif diffyg adnoddau o tua £19 miliwn cyn unrhyw ad-daliad o’n cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr ychwanegol, nad yw wedi’i gynnwys yn y setliad dros dro a gyhoeddwyd heddiw.   Fel y mae Llywodraeth Cymru wedi ei amlygu heddiw, bydd gan Gynghorau eto benderfyniadau anodd i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.

“Bydd ein Tîm Cyllid nawr yn gweithio ar y ffigurau dros dro i gynhyrchu adroddiad manwl i gynghorwyr ei drafod ym mis Ionawr.  Byddwn yn wynebu her sylweddol o ran cydymffurfio â’n dyletswydd gyfreithiol i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/2026, a bydd gennym benderfyniadau anodd i’w gwneud, ond hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a chynghorwyr sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn hyd yn hyn.

“Yn y cyfamser, mae arolwg trigolion ar fin cael ei gyhoeddi i geisio barn y gymuned.  Byddwn yn annog pawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy i edrych ar y wybodaeth rydym wedi’i chasglu am y sefyllfa ariannol.  Bydd y manylion llawn a’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar wefan Conwy wythnos nesaf.”

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cyllid dros dro ar gyfer llywodraeth leol ar 11 Rhagfyr 2024.

Mae disgwyl i setliad terfynol Conwy gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 25 Chwefror 2025.

Bydd y Cyngor yn cyfarfod ar 27 Chwefror 2025 i gwblhau a chytuno ar y gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2025/26.

 

Cyfarfodydd sydd i ddod:

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau:  Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Dydd Llun 6 Ionawr 2025, 10.00 am

Cabinet: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025, 2.00 pm

Wedi ei bostio ar 12/12/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content