Sialens Ddarllen yr Haf 2024
Cyn bo hir bydd yn amser i ddarllenwyr ifanc archwilio eu creadigrwydd dros wyliau’r haf wrth i Lyfrgelloedd Conwy gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni, ‘Crefftwyr Campus’ yn dechrau ar 6 Gorffennaf 2024 a bydd yn cynnwys gweithgareddau am ddim i deuluoedd.
Mewn partneriaeth â Create, elusen gelfyddydol flaenllaw, a llyfrgelloedd cyhoeddus, mae’r sialens eleni’n dathlu creadigrwydd a gallu dweud stori’r plant.
Yn ystod yr haf, gall plant rhwng 4-11 oed ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf, a thanio eu dychymyg drwy rym darllen a mynegiant creadigol.
Gofynnir i blant ddarllen 6 llyfr (neu fwy!) cyn diwedd yr haf. Byddant yn cael poster casglwyr arbennig pan fyddant yn ymuno â’r Sialens Ddarllen, sticeri pan fyddant yn ymweld â’r llyfrgell i gael mwy o lyfrau a thystysgrif a gwobr pan fyddant yn cwblhau’r sialens. Bydd plant yn cael eu hannog i archwilio llyfrau a straeon newydd yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim, o gelf a chrefft i gerddoriaeth, dawns a mwy.
Nod Sialens Ddarllen yr Haf yw osgoi’r cwymp colli dysgu y mae llawer o blant yn ei brofi dros wyliau’r haf pan nad ydynt yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth llyfrgelloedd, mae’n cynnig ffordd hwyliog, am ddim o gadw meddyliau ifanc yn brysur. Drwy ddarllen llyfrau a chasglu pethau i’w hannog yn Llyfrgelloedd Conwy, gall darllenwyr ifanc feithrin eu sgiliau meddwl creadigol dros wyliau’r haf.
Ewch i llyfrgelloeddconwy.com i weld yr holl weithgareddau sydd ar gael i deuluoedd ac i gael mwy o wybodaeth am eich llyfrgell leol.
Wedi ei bostio ar 26/06/2024