Mae Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn amlygu Mis Cerdded Cenedlaethol a’r amrywiaeth o lwybrau cerdded sydd ar gael ar draws y Sir.
Mae cefn gwlad, parciau ac arfordir hardd ac amrywiol Conwy yn llefydd gwych i fwynhau cerdded.
Ewch ar lwybr Copa Gwarchodfa Natur Bryn Euyn yn Llandrillo-yn-Rhos, sy’n cynnwys dringfeydd serth at olygfeydd panoramig. Neu rhowch gynnig ar lwybr coetir nad yw mor serth, ar gyfer gwylio natur. O amgylch y Gogarth yn Llandudno, mae dau lwybr Hanesyddol y gellir eu huno i wneud taith gerdded hirach, neu gallwch fwynhau cylchred o amgylch Marine Drive, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd a phramiau.
I wneud darganfyddiadau hanesyddol, mae taith Ucheldir Pensychnant oddi ar Fwlch Sychnant yn cynnwys cylchoedd cerrig, carneddau a hafotai.
Mae llawer o ysbrydoliaeth ar gyfer teithiau cerdded ar wefan y Cyngor, gan gynnwys gwybodaeth, mapiau a llwybrau: www.conwy.gov.uk/cerdded
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Conwy gyda chyfrifoldeb dros Fannau Agored, “Rydym eisiau i bawb allu mwynhau cerdded y tu allan yng Nghonwy. Felly cofiwch, pan fyddwch chi allan, dilynwch y Cod Cefn Gwlad a byddwch yn ystyriol o eraill. Os ydych allan gyda’ch ci, cadwch eich ci dan reolaeth effeithiol er mwyn gofalu ei fod yn cadw oddi wrth fywyd gwyllt, da byw, ceffylau a phobl eraill. A helpwch i gadw Sir Conwy yn hardd - ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.”
Gwybodaeth am y Cod Cefn Gwlad: https://naturalresources.wales/countrysidecode
Wedi ei bostio ar 15/05/2024