Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Neges gan Dŵr Cymru

Neges gan Dŵr Cymru


Summary (optional)
start content

Neges gan Dŵr Cymru

ww_primary lockup_rgb

Dwr Cymru Welsh Water

Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Diweddariad brys
Updated: 07:30 16 January 2025

Rydym yn dal i ddelio â phrif bibell ddŵr wedi byrstio yn ein Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog, sy'n effeithio ar gyflenwadau dŵr i eiddo ar draws Dyffryn Conwy. Collodd tua 8,000 o aelwydydd eu cyflenwad neithiwr ac mae tua 33,000 o dai eraill bellach mewn perygl o golli cyflenwadau nes bod y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau.

Gallwch weld y diweddaraf ar Yn Eich Ardal Chi.

Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio ar y safle dros nos ond mae'r gwaith atgyweirio brys hwn yn anodd ac yn beryglus gan fod y prif bibell ddŵr wedi byrstio 2 fetr a hanner o dan wely'r afon leol (Afon Ddu). Mae'r gwaith hwn yn gofyn am offer arbenigol ac mae'n golygu gorfod creu strwythur tebyg i argae yn yr afon fel y gallwn gloddio a chael mynediad at y biben sydd wedi'i ddifrodi, gan hefyd sicrhau diogelwch ein gweithlu a'r amgylchedd. Rydym yn rhagweld na fydd cyflenwadau yn cael eu hadfer yn llawn tan yn ddiweddarach heddiw a chysylltwyd â chwsmeriaid yn uniongyrchol â negeseuon testun i'w hysbysu am y digwyddiad hwn.

Rydym yn blaenoriaethu dosbarthu dŵr potel i gwsmeriaid bregus ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi 5,000 o gwsmeriaid bregus yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt.

Rydym hefyd yn cyflenwi dŵr o danceri i'r rhwydwaith i gynnal cyflenwadau i ysbytai lleol.

Byddwn yn diweddaru cwsmeriaid heddiw ac rydym yn ymddiheuro i unrhyw sydd wedi colli eu cyflenwad dŵr. Hoffem sicrhau ein cwsmeriaid ein bod yn gweithio'n galed i drwsio’r biben a datrys y broblem.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol Dŵr Cymru.

Wedi ei bostio ar 16/01/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content