Grant Cartrefi Gwas Cenedlaethol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach yn cymryd rhan yn y Grant Cartrefi Gwas Cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r cynllun hwn ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy a rhaid dangos tystiolaeth drwy gofnodion Treth y Cyngor. Mae’r grant ar gael dim ond ar gyfer perchnogion sy’n bwriadu byw yn yr eiddo eu hunain unwaith y bydd gwaith ailwampio wedi’i gwblhau ac un o amodau’r grant yw bod yn rhaid iddyn nhw fyw yno am 5 mlynedd.
Bydd y grantiau yn symiau rhwng £1,000 a £25,000 a defnyddir ar gyfer gwaith trwsio y mae’r Awdurdod Lleol wedi’i nodi fel gwaith angenrheidiol (ar adeg yr ymweliad cychwynnol) i wneud yr eiddo’n ddiogel, ac ar gyfer gwaith gwella effeithlonrwydd ynni (ond nid ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni yn unig).
Am fwy o wybodaeth, Mae Cyngor Conwy bellach yn cymryd rhan yn y Grant Cartrefi Gwas Cenedlaethol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 19/07/2024