Ffordd newydd o ailgylchu cardfwrdd yn Sir Conwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyflwyno ffordd newydd i breswylwyr ailgylchu cardfwrdd.
Mae’r sachau newydd ar gyfer ailgylchu cardfwrdd yn cael eu danfon i aelwydydd ym mis Hydref, a gall preswylwyr eu defnyddio ar unwaith.
Mae gan y sachau, sydd wedi eu trymhau, gaead sy’n ei gau ei hun i gadw’r cynnwys yn sych, ac maent yn dal 72 litr. Bydd y sachau’n cael eu gwagio’n wythnosol gan griwiau ailgylchu ar yr un pryd â’r trolibocsys a’r biniau gwastraff bwyd.
Mae ffigyrau’r Cyngor yn dangos bod swm y cardfwrdd a gesglir o aelwydydd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
“Ers y pandemig, gyda chynnydd mewn siopa ar-lein a danfon i’r cartref, rydym bellach yn casglu 214 tunnell fetrig yn ychwanegol o gardfwrdd mewn blwyddyn,” meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd.
“Cyflwynwyd cerbydau a gyrwyr ychwanegol i gasglu darnau mawr o gardfwrdd nad oedd yn ffitio i’r trolibocs neu’r lori ailgylchu. Byddai’r criw ailgylchu yn casglu’r cardfwrdd ac yn ei adael mewn pentyrrau ar gyfer y cerbydau ychwanegol, ond nid oeddem bob tro’n gallu casglu’r holl gardfwrdd hwn ar yr un diwrnod. Dywedodd preswylwyr wrthym nad oeddynt yn hoffi gweld pentyrrau o gardfwrdd ar y stryd, yn mynd yn wlyb yn y glaw.
“Mae’r sach newydd ar gyfer ailgylchu cardfwrdd yn golygu bod preswylwyr yn gwybod faint o gardfwrdd y gallant ei roi allan ar ddiwrnod ailgylchu, ac maent yn gwybod y bydd yn cael ei gymryd. Ac mae gan ein criwiau le ar eu lorïau ar gyfer y swm penodol hwn o gardfwrdd, felly nid oes angen cerbydau ychwanegol arnom – bydd hyn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy costeffeithiol.”
Anogir y preswylwyr i dorri bocsys a’u rhwygo er mwyn gallu ffitio cymaint ag sy’n bosibl yn y sach. Gellir cadw cardfwrdd sydd dros ben ar gyfer casgliad yr wythnos wedyn, neu fynd ag o yn rhad ac am ddim i un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Wedi ei bostio ar 03/10/2024