Pyllau Padlo - Diweddariad 11/07/23
Datganiad gan y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden:
Mae’r gwaith ar y pyllau padlo yn dod yn ei flaen yn dda, gan ymdrin â nifer o faterion o ran adeiledd, a sicrhau bod gennym sail a gorffeniad o ansawdd pan fydd wedi’i gwblhau. Rydym wedi archebu’r haen arbenigol ac rydym yn disgwyl iddo gael ei ddanfon cyn bo hir. Nid ydym wedi cael gwybod am unrhyw broblemau.
Mae hwn yn fuddsoddiad mawr i ddiogelu dyfodol hirdymor yr asedau cymunedol hoff hyn, ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd y cymunedau wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn. Mae’r contractwr lleol wedi mynd gam ymhellach ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu holl waith caled.
Rydym wedi ymrwymo i gwblhau’r gwaith yn ddiogel ac i agor y cyfleusterau cyn gynted ag y gallwn, a hoffem sicrhau pawb y bydd y pyllau padlo yn parhau i fod yn rhad ac am ddim pan fyddant yn ailagor.
Cefndir:
09/06/23: Y newyddion diweddaraf am y Pyllau Padlo - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
10/05/23: Pyllau Padlo - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 11/07/2023