Y newyddion diweddaraf am y Pyllau Padlo
Cynhaliwyd cyfarfod hir yr wythnos diwethaf i drafod newid y grisiau ym mhwll padlo Llanfairfechan a pharatoi ar gyfer y llwybrau concrid newydd. Fe fydd y gwaith yn dechrau dros y dyddiau nesaf, gan sychu a chaledu dros yr wythnos nesaf. Pan fydd yn barod, gallwn drefnu i’r haenau atal-llithro gael eu gosod. Rydym wedi gofyn am ddiweddariadau wythnosol gan y contractwr.
Ym Mhenmaenmawr, rydym wedi cael cadarnhad bod yn rhaid cael gwared â’r teils mosäig gwreiddiol ar lawr ac ar waliau’r pwll padlo er mwyn gallu gosod yr haen atal-llithro. Nid yw’r gwaith wedi dechrau ar y safle eto, fe fydd y contractwyr yn symud eu timau o amgylch unwaith y bydd Llanfairfechan yn barod ar gyfer yr haenau atal-llithro.
Fe fydd haenau atal-llithro yn cael eu gosod ym Mhenmaenmawr a Llanfairfechan fel proses un safle er mwyn lleihau costau cymaint â phosibl.
Yng Nghraig y Don y mae’r pwll padlo mwyaf, ac mae gweithwyr ar y safle wrthi’n cael gwared ar yr hen haen/paent, yn ogystal â gosod deunydd uniad ehangu newydd lle mae’n ddiffygiol. Pan fydd y gwaith yma wedi’i gwblhau, fe fydd yr haenau newydd yn cael eu gosod. Mae gwaith Dŵr Cymru sy’n gysylltiedig ag amddiffyn y prif gyflenwad dŵr angen cael ei gwblhau hefyd. Mae gennym ni fân waith trwsio ar y grisiau i lawr i’r pwll padlo i’w gwblhau, gan fod y concrid gwreiddiol wedi dirywio yn rhai o’r mannau yma ac nid ydynt yn gallu derbyn yr haen atal-llithro yn ei gyflwr presennol.
Yn Llandrillo-yn-Rhos, mae’r Peiriannydd Strwythurol rydym wedi ei gomisiynu yn gweithio ar fanylion slab newydd i ni, yn sgil problemau dŵr daear treiddiol a allai effeithio ar yr haenau atal-llithro newydd. Unwaith y bydd y slab wedi cael ei gymeradwyo, fe allwn gychwyn ar y gwaith. Eto, rydym yn gobeithio y gallwn rannu’r gwaith gosod haenau atal-llithro gyda safle Craig y Don, ond mae’n dibynnu ar gwblhau’r slab concrid newydd a’i fod wedi sychu a chaledu digon mewn amser.
Pan fydd y gwaith wedi cael ei gwblhau, fe fyddwn ni’n asesu’r safleoedd ac yna’n cyhoeddi beth fydd y dyddiadau agor.
Cefndir: Pyllau Padlo - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 09/06/2023