Aelodau Panel ar gyfer Apelau Derbyn i Ysgolion
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd a phrofiadau i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc, drwy ddod yn aelodau o’r Panel Apêl Annibynnol ar gyfer apelau derbyn i ysgolion.
Os gwrthodir lle i blentyn mewn ysgol, gan fod grŵp blwyddyn yn llawn neu gorlawn, gall rhiant/gofalwr apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Bydd y Panel Apêl Annibynnol yn cwrdd i ystyried gwybodaeth gan yr ysgol a’r rhiant/gofalwr, er mwyn penderfynu a ddylid dyfarnu lle ai peidio yn yr ysgol honno.
I gael gwybod mwy Penodi Aelodau Panel ar gyfer Apelau Derbyn i Ysgolion - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Dyddiad cau: 27/09/2024.
Wedi ei bostio ar 16/09/2024