Gŵyl y Bara Croyw

Cynulleidfa Hebraeg Llandudno yn 1946
Mae Gŵyl y Bara Croyw (Pesach yn Hebraeg) yn un o’r gwyliau pwysicaf i fywyd a hanes Iddewig.
Eleni caiff ei dathlu rhwng dydd Sadwrn 12 Ebrill a dydd Sadwrn 20 Ebrill. Er yn rhan sefydlog o’r calendr Iddewig, mae union ddyddiad yr ŵyl yn amrywio gan fod gwyliau Iddewig yn seiliedig ar y flwyddyn leuadol.
Ymhlith ei gasgliad, mae gan Archifau Conwy (Diwylliant Conwy | Archifau) gynllun a grëwyd ar gyfer Cynulleidfa Hebraeg Llandudno yn 1946 gan Stad Mostyn. Mae’n dangos y gwaith addasu arfaethedig yn yr adeilad, a oedd yn cael ei alw’n Red Court bryd hynny (y Chabad Retreat Centre heddiw).
Llandudno and Colwyn Bay Hebrew Congregation – Jewish Small Communities Network
Wedi ei bostio ar 11/04/2025