Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dangos y ffordd yn nhrefi Sir Conwy

Dangos y ffordd yn nhrefi Sir Conwy


Summary (optional)
start content

Dangos y ffordd yn nhrefi Sir Conwy

Fingerpost

Arwyddion cyfeirio, Bae Colwyn

Mae gwaith gosod 55 o arwyddion cyfeirio newydd yn mynd rhagddo yn Abergele, Bae Colwyn, Llandudno a Llanrwst.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi sicrhau cyfanswm o £190,000 o Gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, y Gronfa Rheoli Risgiau Arfordirol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn uwchraddio a gosod arwyddion cyfeirio yn y pedair tref ar draws y Sir. 

Mae arwyddion cyfeirio yn fath traddodiadol o arwyddion dangos y ffordd, ac maen nhw’n helpu cerddwyr a beicwyr yn bennaf, ond gallant hefyd gynorthwyo gyrwyr sy’n teithio mewn ardaloedd anghyfarwydd. 

Yn dilyn archwiliad o ddarpariaeth bresennol, ac ar ôl ymgynghori â busnesau lleol a’r gymuned ehangach, dyfarnodd y Cyngor gontract i’r gwneuthurwyr arwyddion, DMA Signs, i ddylunio a gosod yr arwyddion newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy, “Bydd yr arwyddion hyn yn bwysig iawn wrth helpu ymwelwyr i ganfod eu ffordd o gwmpas ac amlygu’r mannau pwysig a diddorol mewn trefi. Rydym yn falch ein bod wedi gallu defnyddio cronfeydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn gwella’r profiad i ymwelwyr wrth iddynt ymweld â ni.”

Bydd yr arwyddion newydd yn darparu arwyddion cyfeirio cadarn, cyfredol o safon er mwyn galluogi cerddwyr i ddod o hyd i nifer o atyniadau i ymwelwyr yn ein trefi.

Wedi ei bostio ar 28/02/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content