Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Recycling Calendars

Calendrau Ailgylchu


Summary (optional)
start content

Calendrau Ailgylchu

Ni fyddwn yn anfon calendrau ailgylchu trwy’r post eleni.

Gallwch wirio eich dyddiadau casglu yn y dulliau canlynol:

Lawrlwythwch ap Conwy: Cewch nodyn yn eich atgoffa bob wythnos pa finiau i’w rhoi allan www.conwy.gov.uk/apconwy Gallwch hefyd ddefnyddio’r ap i weld y casgliadau nesaf, archebu cynwysyddion newydd neu roi gwybod am gasgliad a fethwyd.

Ewch i’n gwefan: Gallwch weld eich 4 casgliad nesaf a lawrlwytho’ch calendr ar ein tudalen gwe Fy Nyddiad Casglu Fy nyddiad casglu - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Argraffwch gopi: Gallwch argraffu copi o’ch calendr oddi ar ein gwefan gartref, yn eich llyfrgell leol neu yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella. Neu ffoniwch ni ar 01492 575337 i gael cymorth.

Bydd calendrau newydd (1 Rhagfyr 2024 i 30 Tachwedd 2025) ar gael ar ein gwefan o 25 Tachwedd 2024 ymlaen.

 

Pam ydych chi wedi rhoi’r gorau i argraffu a phostio calendrau?
Dros y blynyddoedd, rydym wedi argraffu a phrintio calendrau i fwy na 55,000 cyfeiriad yng Nghonwy. Mae hyn yn costio degau o filoedd o bunoedd, a byddai o fwy o fudd i wario’r arian hwnnw ar wasanaethau eraill sy’n cael eu darparu gennym.

Rydym ni’n gwybod bod mwy na 14,500 o bobl yn defnyddio ap gwastraff Conwy eisoes i gael negeseuon atgoffa am eu casgliadau, ac nad ydynt eisiau nac angen copi o’r calendr wedi’i argraffu. Mae 54,447 o bobl wedi defnyddio’r dudalen Fy Nyddiad Casglu ar ein gwefan dros y 12 mis diwethaf. 

Pam wnaethoch chi anfon taflen i roi gwybod i ni na fyddwch chi’n anfon calendr?  Oni fyddech wedi gallu anfon calendr yn lle hynny?
Roedd hi’n bwysig i ni sicrhau bod pob aelwyd yn cael gwybod am y newid hwn.  Dosbarthwyd y daflen wybodaeth ynghyd â’r bag ailgylchu cardfwrdd newydd, felly ni wnaeth gostio dim i ni o ran postio. Mae yna 60 fersiwn gwahanol o’r calendrau ailgylchu, ac mae’n rhaid eu printio’n unigol a sicrhau eu bod nhw’n cyd-fynd â chyfeiriadau penodol cyn eu postio – mae’r gwaith hwnnw’n costio llawer mwy o arian.

Sut fydda i’n cael gwybod am gasgliadau’r Nadolig?
Mae newidiadau i ddyddiadau casglu dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd wedi’u cynnwys eisoes yn y calendr. Felly, gallwch ddibynnu ar eich negeseuon atgoffa ar yr ap neu wirio ar-lein. Rydym hefyd yn cyhoeddi newidiadau i ddyddiau casglu dros y Nadolig drwy’r wasg leol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Pryd fydd y calendr newydd ar gael?
Bydd calendrau newydd (1 Rhagfyr 2024 i 30 Tachwedd 2025) ar gael ar ein gwefan o 25 Tachwedd 2024 ymlaen.

 

Wedi ei bostio ar 11/11/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content