Ailgylchu - poteli plastig
Ailgylchu
Os oes gennych chi lawer o boteli plastig i’w hailgylchu’r wythnos yma:
- Gwasgwch y poteli ac yna rhoi’r caead yn ôl arnyn nhw
- Defnyddiwch focs canol eich trolibocs
- Os yw’r bocs yn llawn, fe gewch chi roi mwy o boteli wedi’u gwasgu mewn bagiau clir ar yr ochr (nid mewn bagiau bin du)
Ddim eisiau gorfod aros? Fe allwch chi hefyd archebu apwyntiad am ddim yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref: Trefnu apwyntiad yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Os ydych chi’n fusnes, cysylltwch â’ch darparwr casglu gwastraff masnachol i drafod casgliadau ychwanegol.
Wedi ei bostio ar 20/01/2025