Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwaith Adnewyddu: 7 Ffordd Abergele, Bae Colwyn

Gwaith Adnewyddu: 7 Ffordd Abergele, Bae Colwyn


Summary (optional)
start content

Gwaith Adnewyddu: 7 Ffordd Abergele, Bae Colwyn

Gwaith yn dechrau:  Dydd Mawrth, 6 Awst 2024 
Gwaith yn dod i ben:  Dydd Gwener 20 Medi 2024

Beth sy’n digwydd? 
Byddwn yn cyflawni gwaith adnewyddu yn yr eiddo hwn. Bydd hyn yn cynnwys gosod ffenestri to a rendro waliau allanol ar lefel uchel yng nghefn yr eiddo.

Er mwyn cyflawni’r gwaith, byddwn yn defnyddio craen wedi’i leoli ar ffordd fynediad i faes parcio Ivy Street. Disgwylir i’r gwaith ddigwydd ar ddydd Llun 2 Medi am un diwrnod. Ni fydd mynediad i gerddwyr i faes parcio Ivy Street o Ffordd Abergele tra bydd y craen yno.

Byddwn hefyd yn cyflawni gwaith yn yr hen siop Peacocks ar Ffordd yr Orsaf.

Bydd ein contractwyr yn gwneud eu gorau i wneud cyn lleied o ymyrraeth â phosibl, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra gall y gwaith ei achosi.

Cwestiynau? 
Os oes gennych bryderon am y gwaith ar y safle, cysylltwch â’n contractwyr RELM Group Ltd ar dion.phipps@relmgroup.co.uk neu ffoniwch Dion ar 07881 202104

Os ydych angen mwy o wybodaeth ar y prosiect, cysylltwch â Steven Roberts trwy affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith yma.

 

Wedi ei bostio ar 09/08/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content