Ymateb i gyhoeddiad am gyllid gan Lywodraeth y DU

Venue Cymru
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi croesawu’r cyhoeddiad y dyfarnwyd £10 miliwn i Venue Cymru gan Lywodraeth y DU, yn amodol ar gyflwyno achos busnes llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant, Llywodraethu a TG: “Rydym yn hynod falch o gael ein dewis fel un o’r prosiectau yn y rownd ariannu hon ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ymestyn yr arlwy diwylliannol i gymunedau Sir Conwy a thu hwnt.
“Mae’r celfyddydau a diwylliant yn bwysig iawn o ran darparu effaith economaidd gadarnhaol ac wrth gefnogi lles ein cymunedau. Bydd y cyllid yn helpu i amddiffyn dyfodol Venue Cymru a’i waith.”
Dywedodd Pennaeth yr Economi a Diwylliant, Sarah Ecob: “Mae Venue Cymru’n croesawu ymwelwyr o’r DU a thramor bob blwyddyn, gan ddarparu dros £30 miliwn mewn budd economaidd i fusnesau lleol, yn ogystal â chynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol cyffrous i ymwelwyr a’r gymuned leol. Mae’r buddsoddiad yn Venue Cymru yn newyddion gwych i’r ardal ac mae’n dod yn sgil buddsoddi cyllid sylweddol yn Llandudno gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd wedi cynnwys gwaith ar hen adeilad M&S ar Mostyn Street, uwchraddio’r holl lochesi ar y promenâd, adnewyddu llwybr poblogaidd Alys, a nifer o grantiau cymorth busnes.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU dros yr wythnosau nesaf i ddeall manylion y cynnig a symud y prosiect ymlaen.”
Dolen i ddatganiad Llywodraeth y DU
Gwybodaeth ychwanegol: Mae prosiect Venue Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu’r celfyddydau a’r arlwy greadigol yno, gan gynnwys gwelliannau i’r awditoriwm a’r cyntedd er mwyn gwella’r profiad i ymwelwyr a darparu cyfleusterau ar gyfer y diwydiannau creadigol. Byddwn nawr yn mynd trwy broses gynllunio bellach ac yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am gwmpas llawn y prosiect wrth i ni gael rhagor o fanylion. Bydd y cynlluniau’n cymryd y cyllid sydd ar gael i ystyriaeth a’r cynnydd mewn costau ers i’r cais cyntaf gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU. Yn gynwysedig yn yr ystyriaethau fydd moderneiddio isadeiledd technegol a seddi’r theatr, ymestyn yr adeilad er mwyn darparu Canolbwynt Creadigol a chyfleusterau cymunedol newydd, a’r posibilrwydd o symud llyfrgell yr ardal er mwyn diogelu’r gwasanaeth mewn cyfnod o anawsterau ariannol difrifol.
Cefndir: Yn rhan o Ddatganiad Cyllideb yr Hydref, cawsom wybod bod y Llywodraeth wedi penderfynu tynnu’r cyllid ar gyfer prosiectau diwylliannol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Gwanwyn 2024 yn ôl - roedd hyn yn cynnwys y £10 miliwn ar gyfer Venue Cymru. Cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad gyda derbynwyr posibl y cyllid i ganfod a ddylid gwneud unrhyw eithriadau. Bu i ni ymgysylltu’n llawn â’r broses honno.
Wedi ei bostio ar 17/02/2025