Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Penrhyn Crescent a The Parade, Llandudno
Gwaith yn dechrau: Dydd Llun, 6 Ionawr 2025
Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 (yn dibynnu ar y tywydd)
Beth sy’n digwydd?
Rydym ni’n gosod wyneb newydd ar Penrhyn Crescent a The Parade mewn tri cham.
Cam 1: Cyffordd Tudor Road i gylchfan y Clwb Hwylio
Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 6 Ionawr Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 10 Ionawr (yn dibynnu ar y tywydd)
Cam 2: Cylchfan y Clwb Hwylio i gyffordd Queen’s Road
Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 13 Ionawr Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 17 Ionawr (yn dibynnu ar y tywydd)
Cam 3: Cyffordd Queen’s Road i gyffordd Nant y Gamar Road
Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 20 Ionawr Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 24 Ionawr (yn dibynnu ar y tywydd)
Bydd ein contractwr yn gweithio o 7am tan 6pm.Bydd yn rhaid i ni gau’r rhannau o’r ffordd ar brydiau er mwyn gwneud y gwaith hwn.
A fydd hyn yn effeithio ar barcio?
Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.
Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.
Beth yw rhoi wyneb newydd?
Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)
Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau
Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol
Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu
Cam 5 – gosod yr wyneb newydd
Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri
Cam 7 – ailbaentio’r marciau ffordd
Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.
Cwestiynau?
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.
Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr wneud y gwaith yma.
Wedi ei bostio ar 27/12/2024