Robin yn chwarae ei ran wrth ddiogelu awyr dywyll

Gweithgor Awyr Dywyll yn y lansiad
Roedd y Swyddog Polisi Cynllunio Strategol, Robin Sandham, yn rhan o weithgor bach a sefydlwyd gyda swyddogion o bob cwr o Gymru i lunio canllawiau newydd ar wella awyr dywyll ar draws Cymru.
Lansiwyd Awyr dywyll: canllawiau cynllunio | LLYW.CYMRU ar 20 Chwefror 2025 yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru, a oedd yn nodi ei 10 mlwyddiant eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Archwilio, Polisi a Pherfformiad Cyngor Conwy: “Mae sicrhau bod golau gyda’r nos yn iawn i’n cymunedau yn bwysig ar gyfer eu hiechyd a lles, yn enwedig rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol lle mae golau gyda’r nos yn fwy amlwg. Hoffwn ddiolch i Robin am rannu ei arbenigedd i helpu i greu’r canllaw pwysig hwn.”
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno canllawiau arfer da cenedlaethol i helpu i ddiogelu ei hawyr dywyll.
Canllawiau Arfer Da: Bydd cynllunio cadwraeth a gwella awyr dywyll yn helpu i sicrhau lles pobl, wrth helpu gwylwyr y sêr a bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
Wedi'i gymeradwyo gan Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gweithredol DarkSky International, ei nod yw cynorthwyo pawb sy'n ymwneud â phenderfyniadau cynllunio - fel datblygwyr ac awdurdodau lleol - i ganolbwyntio ar y golau cywir ar yr adeg iawn yn y lle iawn i sicrhau bod cyfleoedd arbennig i syllu ar y sêr yn parhau.
Mae osgoi llygredd golau - sy'n gwastraffu arian, ynni a charbon - hefyd o fudd i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r hyn sy'n cael ei gynnig i dwristiaid, gyda'r wlad eisoes yn enwog am fod â'r ganran uchaf o awyr dywyll warchodedig yn y byd.
O Fannau Brycheiniog i Eryri, mae gan Gymru Warchodfeydd Awyr Dywyll a gydnabyddir yn rhyngwladol lle gall ymwelwyr weld hyd at 2,000 o sêr ar y tro, o gymharu â llai na 100 yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol, lle gall camau gweithredu sy'n deillio o'r canllawiau wneud gwahaniaeth. Mae rhannau o Gymru hefyd wedi ennill dynodiadau pwysig fel Parc Awyr Dywyll, Noddfa Awyr Dywyll a Chymuned Awyr Dywyll.
Dywedodd Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol DarkSky International, Ruskin Hartley: “Mae DarkSky International yn llongyfarch Cymru ar arwain y ffordd mewn cadwraeth awyr dywyll - Degawd o Dywyllwch. Gwych o beth yw fod Parc Cenedlaethol Eryri yn warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol ers 10 mlynedd, ac yn lansio Canllawiau Arfer Da arloesol i amddiffyn ei awyr dywyll ymhellach.”
Cynhyrchwyd y canllawiau drwy bartneriaeth agos rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Tirweddau Dynodedig Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru: “Mae awyr y nos yn un o'n trysorau naturiol mwyaf gwerthfawr, sy'n ein cysylltu â chenedlaethau dirifedi a syllodd ar yr un sêr uwchben Cymru, ac rwyf am sicrhau ei bod yn cael ei chadw er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei darganfod a'i thrysori.
“Mae ein system gynllunio yn chwarae rhan sylfaenol wrth ddiogelu ein treftadaeth seryddol, nid yn unig i wylwyr sêr, ond i'r rhywogaethau dirifedi sy'n dibynnu ar dywyllwch naturiol er mwyn goroesi.
“Rwy'n falch bod Cymru'n arwain y ffordd drwy lansio'r Canllawiau Cynllunio Arfer Da hyn, a fydd yn ein helpu i eirioli dros - ac amddiffyn - ein hawyr dywyll.
Wedi ei bostio ar 06/03/2025