Y diweddaraf am Bont y Soldiwr Mis Mehefin 2023
Mae Pont y Soldiwr (Sappers Bridge) ynghau ar hyn o bryd ar sail diogelwch gan fod yr estyll pren, cefnogaeth yr estyll, prif geblau crog a’r tyrau i gyd angen eu newid. Mae’n rhaid tynnu’r bont gyfan a’i hailadeiladu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dechrau gwaith dylunio ar y prosiect hwn, gan gynnwys y dewis o ymestyn y dec ac uwchraddio i safonau modern. Mae arian wedi’i sicrhau drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Rydym yn disgwyl cael darluniadau cysyniadol ar gael ym mis Gorffennaf ac yna byddwn yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn y pentref.
Rydym wedi ymchwilio i weld a oes unrhyw ffordd o agor y bont dros dro ond yn anffodus nid yw hyn yn bosibl oherwydd bod y prif geblau wedi eu condemnio.
Wedi ei bostio ar 02/06/2023