Darllen ar y Cyd yn Llyfrgelloedd Conwy

Llun: The Reader
Mae Steve Stratford yn gynorthwyydd llyfrgell mewn tîm o naw o staff Llyfrgelloedd Conwy yng ngogledd Cymru sydd wedi’u hyfforddi i gynnal grwpiau Darllen ar y Cyd gan yr elusen genedlaethol The Reader. Mae’n sôn yma am y gwahaniaeth mawr y mae’r grŵp wedi’i wneud wrth i’r aelodau – a Steve ei hun – fagu hyder.
‘Mae llyfrgelloedd wedi newid cryn dipyn – does dim disgwyl i bobl gadw’n dawel ynddyn nhw mwyach’
Mae’r cyn-newyddiadurwr Steve Stratford wedi bod yn Gynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Conwy ers wyth mlynedd. Ddwy flynedd yn ôl, roedd Steve ymysg criw o naw o gydweithwyr Llyfrgelloedd Conwy a gafodd hyfforddiant i fod yn ‘Arweinwyr Darllen’ ar ran The Reader, yr elusen fwyaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer darllen ar y cyd.
Cynhelir grwpiau bob wythnos a phob pythefnos bellach, yn Llyfrgelloedd Abergele, Conwy, Bae Colwyn, Llandudno a Llanrwst. Mae’r grwpiau’n rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb ymuno yn yr awyrgylch cyfeillgar, cynhwysol heb gael eu beirniadu, a gall pobl leol greu cysylltiadau a rhannu profiadau drwy straeon a phenillion. Does dim pwysau ar neb i siarad na darllen yn uchel.
Mae The Reader yn rhedeg mwy na 490 o grwpiau Darllen ar y Cyd ledled y Deyrnas Unedig.
Yn nhref harbwr hanesyddol Conwy y mae grŵp Steve yn cwrdd, y dref braf sy’n enwog am y castell o’r Canol Oesoedd. Mae Llyfrgell Conwy yn rhan o adeilad newydd sbon Canolfan Ddiwylliant Conwy, yng nghysgod muriau hanesyddol y dref. Agorodd yr adeilad pwrpasol hwn yn 2019 ac mae hefyd yn gartref i Wasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd y Sir a chaffi Cantîn ac ardal gymunedol boblogaidd dros ben - lle cynhelir pob math o ddosbarthiadau fel synfyfyrdod Bwdhaidd, crefft Tsieineaidd hynafol Tai Chi a sgyrsiau gydag awduron, gan gynnwys yr awdur nofelau ditectif poblogaidd, Simon McCleave. Mae yma hyd yn oed ardd synhwyraidd gymunedol lle gall pobl leol ddod i dyfu planhigion a pherlysiau.
Cynhelir y Grŵp Darllen y Cyd gyda Steve bob pythefnos ar brynhawn dydd Gwener, rhwng 2pm a 3.30pm.
Meddai Steve: “Mae llawer o’r bobl sy’n cymryd rhan wedi ymddeol ac maen nhw’n dod ymlaen yn wych efo’i gilydd. Mae’n griw bach hyfryd; maen nhw wedi dod yn ffrindiau drwy Ddarllen ar y Cyd. Mae’r lle’n llawn o hwyl a chwerthin. Rydyn ni wedi cael un neu ddau o ddynion yn dod i’r grŵp, gan gynnwys un gŵr bonheddig oedd yn ddall. Fe symudodd yma o Fanceinion ac wedi clywed sôn am Ddarllen ar y Cyd. Roedd o’n mwynhau gwrando ar y straeon. Dwi wrth fy modd yn ei wneud o – mae’n fendigedig creu cysylltiadau â phobl drwy lyfrau. Rydyn ni’n darllen am rywfaint cyn cael seibiant, rhannu ein teimladau a chael paned. Rydych chi’n dod i adnabod pobl – dyna beth sydd mor hyfryd am lenyddiaeth.”
Mae’r cyn-ohebydd a golygydd, a fu’n gweithio i bapur rhanbarthol yn y Gogledd, yn dweud y bu wrth ei fodd â geiriau a llyfrau erioed. Fel cynorthwyydd llyfrgell ac arweinydd y grŵp, roedd hi’n braf iddo weld pobl yn magu hyder drwy Ddarllen ar y Cyd.
Meddai: “Dw i’n meddwl fod Darllen ar y Cyd yn syniad ardderchog. Weithiau, dydi pobl ddim yn ddigon hyderus i roi cynnig ar lyfrau mawr ac yn meddwl y byddant yn rhy anodd, ond mae darllen nofel mewn grŵp, heb fod dan bwysau i siarad neu ddarllen yn uchel, yn gallu bod yn help mawr i bobl fagu hyder a bod yn nhw eu hunain. Dw i wedi gweld hynny’n digwydd yn y ddwy flynedd ers imi fod yn cynnal y grŵp. Mae wedi rhoi hwb mawr i fy hyder innau, gan nad oeddwn i wedi arfer siarad o flaen grŵp o bobl pan gychwynnais i. Mae’r grŵp yn gyfle gwych i gymdeithasu ac mae pawb wedi magu hyder yma. Weithiau, tydi pobl ddim yn hoff o sŵn eu lleisiau eu hunain. Mae un ddynes yn enwedig wedi dod allan o’i chragen yn y flwyddyn ddiwethaf. Doedd hi byth yn dweud rhyw lawer ond pan ofynnais yn un o’r sesiynau a hoffai rhywun ddarllen darn o’r stori, mi ddywedodd hi ‘iawn’ ac roedd hynny’n gam mawr ymlaen. Dro arall, fe wnaeth darn o destun helpu un o’n haelodau selog i ddod i sylweddoliad o bwys. Roedd hi’n myfyrio ynghylch ei pherthynas â’i thad. Pan oedd hi’n iau, roedd hi’n arfer meddwl amdano fel dyn tra-arglwyddiaethol ond fe wnaeth y stori wneud iddi ailystyried ei theimladau. Roedd yn atgof personol iawn i’w rannu ac roedd hi’n ddigon hyderus i wneud hynny ymysg ei ffrindiau.”
Yn ôl Steve, mae’n well gan y grŵp “stori sy’n sefyll ar ei thraed ei hun, efo terfyn pendant” ond mae’n hoff o roi her iddynt â thestunau a cherddi grymus.
Meddai: “Fe gawson ni hwyl ar ddarllen pennod o Frankenstein gan Mary Shelley, a oedd yn dra gwahanol i beth oedden nhw wedi’i ddychmygu. Mae’r testun yn hyfryd ac wedi’i ysgrifennu o safbwynt y ‘creadur’ mewn ffordd deimladwy a meddylgar dros ben, sy’n dra gwahanol i beth welwch chi yn y ffilmiau. Mi gafodd hynny effaith fawr ar y grŵp, a oedd yn methu â choelio mai merch ddeunaw oed oedd yr awdur. Mae barddoniaeth yn gallu codi braw ar bobl mewn bywyd bob dydd. Dw i bob amser yn gwneud yn siŵr ein bod yn darllen bob wythnos, hyd yn oed os ydi pobl braidd yn dawedog. Mi wnaeth un o’r cerddi a ddarllenon ni’n ddiweddar, Alone gan Siegfried Sassoon, daro tant efo’r grŵp. Roedd y gerdd yn cyfleu’r unigrwydd o safbwynt gweddw. Bu’n help mawr i mi’n bersonol gan mod i wedi colli fy nhad yn fuan cyn hynny, ac fe ges i syniad sut oedd pethau i Mam."
“Rydyn ni’n cwrdd mewn ystafell gymunedol wrth ymyl y llyfrgell, ond mewn llyfrgelloedd eraill – Llandudno, er enghraifft - mae’r grwpiau’n cwrdd yn y llyfrgell ei hun. Mae’n beth braf i bobl eraill weld y grwpiau’n Darllen ar y cyd wrth ddod i’r llyfrgell. Mae llyfrgelloedd wedi newid cryn dipyn – does dim disgwyl i bobl gadw’n dawel ynddyn nhw mwyach. Rydyn ni’n gwneud digonedd o sŵn yn ein Hamser Stori pan mae yma hyd at ugain o bramiau, a chelf a chrefft i blant – sy’n wych ei weld. Mae ein llyfrgelloedd yn lleoedd i bawb o bob cenhedlaeth.”
Meddai Sharon Morgan, Pennaeth Dros Dro’r Adain Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yng Nghonwy: “Mae Darllen ar y Cyd wedi ennill ei blwyf yn narpariaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy. Mae darllen a thrafod yn annog pobl i ddeall ac ymddiried yn ei gilydd ac mae yno ymdeimlad o berthyn ymhob grŵp, sydd wedi ehangu rhwydweithiau cymorth a chyfeillgarwch y bobl sy’n cymryd rhan. Mae’n gyfuniad rhyfeddol o lenyddiaeth wych a phobl yn cyfrannu o’r galon.”
I gael mwy o wybodaeth am Ddarllen ar y Cyd, ewch i wefan The Reader ac i ddysgu mwy am Ddarllen ar y Cyd yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy, ewch i Llyfrgelloedd Conwy neu ffoniwch 01492 576139.
Ynglŷn â The Reader
Elusen yw The Reader sy’n arfer grym llenyddiaeth a darllen yn uchel i weddnewid bywydau pobl ledled y Deyrnas Unedig. Mae ein gwirfoddolwyr a staff yn dod â phobl ynghyd i ddarllen straeon a phenillion gwych – gan greu cysylltiadau cryf yn y foment. Rydyn ni’n galw hynny’n Ddarllen ar y Cyd.
Mewn byd sy’n fwyfwy rhanedig a chymaint o bethau’n pwyso ar ein hiechyd meddwl, mae Darllen ar y Cyd yn rhoi amser a lle i rannu’r pethau sy’n bwysig inni.
Rydym yn darllen â phlant, teuluoedd ac oedolion mewn llyfrgelloedd a mannau cymunedol, pobl mewn cartrefi gofal, pobl â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, pobl sy’n ymdopi â bod yn gaeth i gyffuriau neu’n adfer ar ôl rhoi’r gorau iddynt, a phobl yn y system cyfiawnder troseddol. Mae ein gwaith yn hybu lles, yn gwneud pobl yn llai unig ac yn ein helpu i ddod o hyd i ystyr o’r newydd mewn bywyd.
Mae The Reader yn derbyn arian cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, chwaraewyr y People’s Postcode Lottery a Sefydliad Garfield Weston, yn ogystal â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dysgwch fwy drwy fynd i thereader.org.uk /@thereaderorg
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy
Mae gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Conwy ddeg o lyfrgelloedd ac un llyfrgell deithiol. Mae Darllen ar y Cyd yn un o blith amryw weithgareddau’r gwasanaeth i estyn allan a meithrin cyswllt â phobl er mwyn hybu iechyd a lles y cwsmeriaid. Yn Llyfrgelloedd Conwy ceir manylion y digwyddiadau a rhestr o’r holl wasanaethau, neu fel arall cysylltwch â 01492 576139.
Wedi ei bostio ar 24/04/2025