Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Single Person Council Tax discount review

Adolygu'r Gostyngiad Person Sengl (Treth y Cyngor)


Summary (optional)
start content

Adolygu'r Gostyngiad Person Sengl (Treth y Cyngor)

Yn ddiweddar, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynnal adolygiad i wirio cymhwysedd nifer o eiddo sydd wedi cofrestru ar gyfer y Gostyngiad Person Sengl. Mae’r gostyngiad yn rhoi 25% oddi ar Dreth y Cyngor os mai dim ond un oedolyn sy’n byw yn yr eiddo.

Fel rhan o’r adolygiad, cysylltwyd â phreswylwyr i weld a oeddent yn gymwys i gael y gostyngiad. 

Er bod y rhan fwyaf o’r aelwydydd sydd wedi cofrestru ar gyfer y gostyngiad yn ei hawlio’n gyfreithlon, nododd y Cyngor ystod o amgylchiadau lle nad oeddent yn gymwys i’w gael neu lle’r oedd unigolion yn ei hawlio drwy dwyll.  Mae’n bosibl y bydd achosion lle nad yw’r Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth y cartref a all effeithio ar y gostyngiad neu, mewn rhai achosion, lle hawlir y gostyngiad trwy dwyll yn fwriadol.

Nododd yr adolygiad bod ychydig llai na £275 mil yn cael ei hawlio’n anghywir, y bydd y Cyngor yn mynd ati i’w adennill gan y preswylwyr hynny nad ydynt yn gymwys i gael y gostyngiad. 

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy, “Mae’r adolygiadau hyn yn rhan o’n gwaith i ddiogelu’r pwrs cyhoeddus a darganfod twyll.  Mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr fod pawb yn talu cyfran deg – os nad ydych yn gymwys i gael y gostyngiad ac yn osgoi talu Treth y Cyngor llawn, bydd adolygiadau fel hyn yn helpu i nodi gweithgarwch twyllodrus.”

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y mwyaf o’n hincwm er mwyn gallu darparu gwasanaethau i’n holl breswylwyr, yn enwedig ar adeg lle mae rhagolygon ariannol Cynghorau yn parhau i fod yn heriol.  Mae refeniw Treth y Cyngor yn cyfrif am oddeutu 30% o gyllideb y Cyngor, gyda chronfeydd eraill yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.”

Mae adolygiadau’r Gostyngiad Person Sengl yn cael eu cynnal yn rheolaidd.   Gofynnir i unrhyw drethdalwyr sy’n derbyn gostyngiad nad ydynt yn gymwys iddo mwyach gysylltu â gwasanaeth Treth y Cyngor i newid eu manylion.   

Mae adolygiad o eiddo a ddylai fod yn talu Premiwm Treth y Cyngor, fel ail gartref neu eiddo gwag hirdymor, hefyd ar waith.  Hyd yn hyn, mae oddeutu 100 o eiddo wedi’u nodi fel rhai a ddylai fod yn talu Premiwm ychwanegol.

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy anfon e-bost at: trethycyngor@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 09/12/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content