Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2024
Wrth i Wythnos Gwaith Cymdeithasol ddirwyn i ben, (18 i 22 Mawrth), diolchodd Aelodau Cabinet Conwy i aelodau staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad.
Dros yr wythnos, trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau ar-lein gan Gofalwn Cymru, gan ddod â phobl ynghyd i ddathlu gwaith cymdeithasol drwy ganolbwyntio ar gydweithio, lles a meysydd gwella ymarfer.
Yng Nghonwy, trefnwyd dwy sesiwn arall, i weithwyr cymdeithasol ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Gwaith Cymdeithasol. Fe agorwyd y sesiynau gyda neges dros fideo gan yr Athro Prospera Tedam o Goleg Prifysgol Dulyn ac awdur ‘Anti-Oppressive Social Work Practice’.
Meddai’r Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig: “Rydym yn gwybod bod Gwaith Cymdeithasol yn faes gwaith hynod heriol, felly mae’n bwysig cymryd amser i gydnabod popeth maent yn ei wneud i wella bywydau yn ein cymunedau, a’u cefnogi nhw a’u cydweithwyr ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, fel bod modd iddynt gyflawni eu gwaith.”
Meddai’r Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu: “Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol yn rhoi’r cyfle i ni ddiolch i’n tîm gwych am eu gwaith caled a’u hymroddiad i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer y teuluoedd a’r unigolion y maent yn gweithio â nhw, a helpu i wella bywydau yng Nghonwy.”
Wedi ei bostio ar 25/03/2024