Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Strategaeth i hybu mannau gwefru

Strategaeth i hybu mannau gwefru


Summary (optional)
start content

Strategaeth i hybu mannau gwefru

Gofynnir i Gynghorwyr gytuno ar ddull sirol ar gyfer gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus a safleoedd sy’n eiddo i’r Cyngor.

Mae Gwasanaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Conwy yn ceisio caniatâd i wahodd tendrau am weithredwr i weithio gyda’r Cyngor i osod a gweithredu mannau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus, gyda’r Cyngor yn derbyn canran o’r incwm a gynhyrchir.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 115 o fannau gwefru cyhoeddus ar gael ledled y sir, mewn lleoliadau megis archfarchnadoedd a gwestai.

Wrth i fwy o breswylwyr ac ymwelwyr ein sir symud at ddefnyddio cerbydau trydan, mae cyfle i fannau gwefru ym meysydd parcio’r Cyngor ychwanegu at y ddarpariaeth gyffredinol.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd, “Mae gan y Cyngor rôl i sicrhau bod y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan yn y sir yn annog pobl i ddewis cerbydau trydan a hefyd bod rhai sy’n ymweld â Chonwy’n teimlo’n hyderus y gallant ddod o hyd i gyfleusterau gwefru ar ôl teithio yma.

“Risg ariannol fechan iawn sydd i’r dull sy’n cael ei argymell i gynghorwyr gan ddarparu budd masnachol i’r Cyngor.”

Gofynnir i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle a’r Cabinet gefnogi’r strategaeth i ddarparu mannau gwefru cerbydau trydan i’r cyhoedd ar safleoedd sy’n eiddo i’r Cyngor trwy gaffael un cyflenwr dan fodel consesiynol wedi’i ariannu’n rhannol.

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle
Dolen i’r rhaglen, adroddiadau a’r gweddarllediad: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle ddydd Mercher, 20 Tachwedd 2024 5.30 pm

Cabinet
Dolen i’r rhaglen, adroddiadau a’r gweddarllediad: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen ar gyfer y Cabinet ddydd Mawrth, 26 Tachwedd 2024, 2.00 pm

 


 

Wedi ei bostio ar 22/11/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?