Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Success at the Teaching Awards

Llwyddiant yn y Gwobrau Addysgu


Summary (optional)
start content

Llwyddiant yn y Gwobrau Addysgu

Mae dau athro yn Sir Conwy wedi cyrraedd y brig yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwobrau yn cydnabod llwyddiannau athrawon ar draws Cymru.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 14 Gorffennaf.

Enillodd Dr Gareth Evans o Ysgol y Creuddyn wobr Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd.

Enillodd Amy Grimwald sy’n addysgu yn Ysgol Aberconwy wobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Meddai’r Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Hoffaf longyfarch y ddau athro am gael eu cydnabod yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru Llywodraeth Cymru, a dw i’n hynod falch o’u llwyddiannau. Maen nhw’n ysbrydoliaeth i’w myfyrwyr, ac i’w cydweithwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ewch i: Gwobrau 2024 | LLYW.CYMRU

Wedi ei bostio ar 18/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content