Digwyddiad llwyddiannus 'Gwella eich Dyfodol'
Staff Gwasanaeth Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy yn y digwyddiad Hwb i’ch Dyfodol
Cafodd digwyddiad cyngor a gwybodaeth ei gynnal i bobl ifanc 15–24 oed fis diwethaf (21 Hydref).
Daeth dros 140 o bobl ifanc i’r digwyddiad ‘Gwella eich Dyfodol’ oedd wedi’i drefnu trwy Wasanaeth Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy yn Swyddfeydd Coed Pella ym Mae Colwyn.
Roedd y digwyddiad yn cynnig cymorth a chyngor i bobl ifanc am lu o bynciau, yn cynnwys gwaith a hyfforddiant, budd-daliadau, tai a lles. Roedd yr arddangoswyr yn cynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Coleg Llandrillo Menai, Youth Shedz Abergele, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, Gyrfa Cymru, Viva LGBT+ a Gofalwyr Ifanc.
Roedd disgyblion o ysgolion uwchradd yn Sir Conwy yno, ynghyd â phobl ifanc nad oeddent mewn gwaith, addysg na hyfforddiant, i gael cyngor am gyfleoedd a chymorth oedd ar gael iddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy, sydd hefyd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid, “Roedden ni’n falch iawn o allu trefnu’r digwyddiad yma i bobl ifanc. Roedd y rhai a ddaeth iddo’n gallu manteisio ar amrywiaeth o gyngor a gwasanaethau, a dysgu am gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw ar y cam pwysig yma yn eu bywydau.”
Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy ar gyfer pobl ifanc 11–24 oed sy’n byw yn Sir Conwy.
Mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys clybiau ieuenctid a gweithgareddau, cyfleoedd i wneud Gwobr Dug Caeredin, cymorth i gael gwaith a chyngor am les.
Mae’r gwasanaethau ieuenctid yn ceisio cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw bontio i fod yn oedolion, gan eu helpu i gyfrannu’n gadarnhaol yn eu cymunedau, trwy weithgareddau a pherthnasoedd cadarnhaol.
www.conwy.gov.uk/gwasanaethieuenctid
Wedi ei bostio ar 29/11/2024