Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Tri Phwll Padlo wedi'u hadnewyddu i agor

Tri Phwll Padlo wedi'u hadnewyddu ar agor


Summary (optional)
start content

Tri Phwll Padlo wedi'u hadnewyddu ar agor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi y bydd y pyllau padlo yn Llanfairfechan, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos yn agor 17/05/24.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd tri o’n pyllau padlo yn ail-agor yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth.

“Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad mawr i ddiogelu dyfodol hirdymor yr asedau cymunedol yma sydd mor boblogaidd. Rwy’n falch y byddan nhw ar agor ar gyfer penwythnos gŵyl y banc a gobeithio y cawn ni dywydd braf yn yr haf fel bod pawb yn cael y cyfle i’w mwynhau.”

Mae cyfnod o dywydd sych yr wythnos diwethaf hefyd wedi helpu gyda chynnydd y pedwerydd safle yng Nghraig-y-Don, sef y pwll mwyaf o bell ffordd. Mae'r holl waith adeiladu mawr wedi'i gwblhau ac mae contractwyr bellach yn cyflawni camau olaf eu gwaith pan fydd y tywydd yn caniatáu.  Bydd dyddiad agor pwll padlo Craig-y-Don yn cael ei gadarnhau yn nes at yr amser.

Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Isadeiledd: “Hoffwn ddiolch i’n contractwyr am eu holl waith caled, yn enwedig o ystyried y tywydd gwlyb cyson rydyn ni wedi’i gael. Maen nhw wir wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i weithio ar y safle pryd bynnag y mae amodau wedi caniatáu.”

Mae’r Cyngor yn falch fod ganddo bedwar o’r unig bum pwll padlo cyhoeddus am ddim sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru ac mae’n cydnabod eu pwysigrwydd i bobl leol a’r economi ymwelwyr.

Wedi ei bostio ar 16/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content