Safonau Masnach yn atafaelu nwyddau anghyfreithlon
Ar 23 Medi, cyflawnodd Safonau Masnach Conwy gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru, Swyddogion Gorfodi Mewnfudo, Ci Canfod Wagtail a Swyddogion o Ymgyrch CeCe*, archwiliadau o dri eiddo busnes ac un annedd yn ardal Sir Conwy.
Roedd y pedwar eiddo wedi bod yn cyflenwi sigaréts a thybaco anghyfreithlon ac anniogel, yn ogystal â fêps anghyfreithlon i oedolion a phlant.
Yn ystod yr archwiliadau, darganfuwyd mannau cuddio pwrpasol lle cadwyd y tybaco a fêps anghyfreithlon ac anniogel. Mae’r holl gynnyrch sydd wedi’u nodi fel rhai anghyfreithlon (werth tua £46,000) wedi cael eu hatafaelu ac mae’r ymchwiliadau yn parhau.
Ar draws y pedwar eiddo, atafaelwyd y canlynol i gyd:
- 834 pecyn (16,680 sigarét) o dybaco anghyfreithlon ac anniogel
- 29.25Kg (585 pecyn) o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon ac anniogel
- 1,353 fêp anghyfreithlon ac anniogel
Er bod Safonau Masnach yn cydnabod ar adegau bod pobl yn credu mai’r unig berson sy’n colli allan yw’r dyn treth, ond mae hynny’n hollol anghywir. Mae masnachu cynnyrch tybaco a fêps anghyfreithlon yn cael effaith uniongyrchol ar fusnesau lleol sy’n gwerthu cynnyrch cyfreithlon. Mae’r bobl ynghlwm gwerthiant a chyflenwad cynnyrch anghyfreithlon ac anniogel yn hapus i werthu cynnyrch i blant ifanc iawn, cau a dinistrio busnesau lleol cyfreithlon, a bron bob amser yn rhan o gaethwasiaeth fodern, canfanteisio’n rhywiol ar blant a throseddu cyfundrefnol difrifol.
Hefyd mae pryderon diogelwch ychwanegol am y math hwn o fasnachu. Rhaid i gynnyrch tybaco a fêps cyfreithlon fynd trwy brofion trwyadl ac maent yn cynnwys nodweddion diogelwch ychwanegol. Gyda’r cynnyrch anghyfreithlon, nid yw hyn yn digwydd, ac mae cynnyrch yn gallu bod yn hynod o beryglus i iechyd pobl.
Mae Safonau Masnach yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am bobl sy’n gwerthu sigarennau neu dybaco rholio â llaw rhad, i gysylltu â Crime Stoppers ar 0800 555 111.
*Ymgyrch CeCe - Tîm Ymchwilio Rhanbarthol, a ariennir gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Safonau Masnach Cenedlaethol. Eu cylch gwaith yw casglu gwybodaeth mewn perthynas â thybaco anghyfreithlon, a chynorthwyo awdurdodau lleol gydag achosion fel yr uchod.
Wedi ei bostio ar 25/09/2024