Trawsnewid hen adeilad M&S, Llandudno

Trawsnewid Trefi
Mae cynlluniau wedi’u cyhoeddi i adfywio’r hen adeilad M&S ar Mostyn Street yn Llandudno, gyda chefnogaeth rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Yn rhan o’r prosiect i ddatblygu’r adeilad yn ganolbwynt hamdden, fe gyflwynodd Cyngor Conwy gais am gyllid drwy’r rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £700,000 i gyfrannu at gyfanswm cost y prosiect, sef £5 miliwn.
Bydd y cyllid yn cefnogi Mostyn Estates, perchnogion yr adeilad, i adnewyddu’r adeilad a datblygu canolbwynt adloniant teuluol newydd, a chynnig bwyd a diod.
Bydd Mostyn Estates yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwr hamdden profiadol a fydd yn rheoli’r adeilad i gynnig caffi a bar ar thema, chwe ali fowlio, darts clyfar, gwthfwrdd, byrddau pŵl, golff gwyllt 11-twll dan do, ynghyd â chanolfan adloniant i deuluoedd er mwyn creu cyfleuster hamdden dan do yng nghanol Llandudno.
Yn ôl Mostyn Estates, “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gwneud y datblygiad cyffrous yma ac adnewyddu adeilad sy’n bwysig i lawer o bobl, mewn lle canolog ar Mostyn Street. Rydyn ni’n teimlo y bydd y prosiect hwn yn cefnogi’r stryd fawr trwy ddenu pobl i ganol y dref a’u hannog i wario yn ystod y dydd a’r nos. Bydd yn creu bwrlwm yma, a gall pobl busnes elwa ar hynny.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Roedden ni’n falch iawn o allu helpu i sicrhau’r cyllid yma gan Lywodraeth Cymru. Mae’r hen adeilad M&S ar Mostyn Street yn safle hollbwysig yn y dref. Mae’r cynlluniau i ddatblygu canolbwynt hamdden ac adloniant yn gyfle cyffrous sy’n gallu helpu i sicrhau bywiogrwydd a chynaliadwyedd economaidd y rhan hon o’r dref ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.”
Mae Trawsnewid Trefi’n rhaglen gan Lywodraeth Cymru sydd wedi darparu £125 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf i gefnogi canol trefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru.
Nod cyllid Trawsnewid Trefi yw sicrhau gwytnwch economaidd a chymdeithasol canol trefi, gan greu swyddi, datblygu isadeiledd gwyrdd, gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau, a chefnogi busnesau lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jane Bryant: “Mae’r canolbwynt hamdden dan do newydd yma’n dangos ein gweledigaeth ni i adfywio canol trefi trwy drawsnewid adeiladau gwag a segur yn lleoedd llawn bywyd sy’n denu pobl, yn gwella profiadau i ymwelwyr ac o fudd i gymunedau.
“Trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydyn ni’n cefnogi prosiectau fel hyn ar hyd a lled Cymru sy’n creu cyfleoedd gwaith, yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn chwa o fywyd newydd ar y stryd fawr.”
Mae Trawsnewid Trefi yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu £125 miliwn i adfywio canol trefi yng Nghymru.
Mae canol trefi a dinasoedd yn rhan hollbwysig a phersonol o dreftadaeth a chymuned Gymreig, ac mae rhaglen Trawsnewid Trefi wedi ymroi i wasanaethu a chysylltu’r bobl sy’n byw, gweithio, dysgu ac yn treulio amser hamdden yno.
Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi | LLYW.CYMRU
Wedi ei bostio ar 08/04/2025