Bridiwr Cŵn Didrwydded yn y Llys
Conwy CBC Logo RGB
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Yn Llys Ynadon Llandudno ar 21/01/25, cafwyd Mared Eurgain Roberts yn euog o dorri rheolau adran 13 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (bridio cŵn heb drwydded), mewn achos a gyflwynwyd gan Swyddogion Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Rhoddwyd dirwy o £500.00 i Mrs Roberts, oherwydd ple euog cynnar, a gorchymyn i dalu £366.55 o gostau a gordal dioddefwr o £200.00. Mae’n rhaid talu’r cyfanswm, sef £1066.55, yn llawn cyn pen 28 diwrnod.
Er gwaethaf sawl cais gan Swyddogion Trwyddedu i ddarparu gwybodaeth briodol, a nodiadau atgoffa i adnewyddu ei thrwydded, parhaodd Mrs Roberts i fridio cŵn a’u hysbysebu ar werth ar wefan Pets4Homes.
Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio Conwy, “Fel Awdurdod, rydym wir yn cymryd ein dyletswydd i ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid o ddifrif. Mae’r canlyniad cadarnhaol hwn yn amlygu’r gwaith caled a wnaed gan Swyddogion Trwyddedu Conwy wrth weithredu’r rheoliadau i ddiogelu anifeiliaid a defnyddwyr.”
Y cyngor sy’n cael ei roi gan swyddogion Trwyddedu os ydych chi’n ystyried cael anifail anwes newydd yn eich teulu yw eich bod yn edrych ar y canllawiau sydd ar gael gan - Trwyddedu Anifeiliaid Cymru - Animal Licensing Wales
Wedi ei bostio ar 04/02/2025