Diweddariad ar Storm Darragh – tarfu yn parhau ar draws ffyrdd Gogledd Cymru
Mae tywydd garw #StormDarragh yn parhau ac wrth i ni agosáu at y nos mae galw am ofal eithafol ar ffyrdd Gogledd Cymru.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn:
“Mae ymatebwyr yn gweithio’n galed i glirio ffyrdd ar draws y rhanbarth ond mae maint yr aflonyddwch yn golygu ei bod yn amhosibl cael gwared ar yr holl goed sydd wedi cwympo cyn iddi nosi.
“Efallai na fydd arwyddion rhybudd yn eu lle ar gyfer llawer o’r rhwystrau hyn neu lifogydd lleol felly byddwch yn ofalus iawn – osgowch deithio os yn bosibl.
“Mae rhybuddion llifogydd ychwanegol hefyd wedi’u cyhoeddi. Peidiwch â cheisio gyrru drwy ddŵr llifogydd gan fod hyn yn peryglu cerbydau yn sownd ac yn dargyfeirio adnoddau brys.
“Diolch eto am eich cydweithrediad wrth i ni barhau i amddiffyn cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Dilynwch ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol gan:
Byddwch #YmwybodolO’rTywydd, ceisiwch osgoi teithio os yn bosibl, a chadwch lygad allan am ddiweddariadau
Wedi ei bostio ar 07/12/2024