Ymgynghoriad Ffyniant Bro Venue Cymru
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd aelodau’r Cabinet yn penderfynu a ddylid cymeradwyo cynnal ymgynghoriad â’r cyhoedd.
Mae Gwasanaeth yr Economi a Diwylliant Conwy yn ceisio caniatâd gan Gynghorwyr i ymgynghori ar symud Llyfrgell Llandudno i adeilad estynedig Venue Cymru fel rhan o’r prosiect Ffyniant Bro £10 miliwn er mwyn darparu rhagor o hygyrchedd a gwasanaeth gwell i ddefnyddwyr y Llyfrgell.
Byddwn yn adleoli Gwasanaeth Canolfan Groeso Llandudno i Venue Cymru hefyd er mwyn diogelu’r gwasanaeth hwn ar adeg pan fo llawer o Awdurdodau Lleol yn cau adeiladau eu Canolfannau Croeso.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Mawrth y dyfarnwyd £10 miliwn i Venue Cymru o Gronfa Ffyniant Bro sy’n ariannu prosiectau diwylliannol o bwys cenedlaethol ledled Prydain Fawr.
Ers i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud, mae tîm prosiect wedi bod yn gweithio ar gynlluniau manwl i wella’r cyfleusterau yn Venue Cymru. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU fel rhan o Achos Busnes sy’n ofynnol er mwyn cael y cyllid.
Wrth symud Llyfrgell Llandudno i Venue Cymru, byddai’n cynnig amseroedd estynedig i bobl ddefnyddio casgliadau’r llyfrgell trwy gynnwys cyfleuster hunanwasanaeth ar gyfer benthyca a dychwelyd llyfrau pan fo’r adeilad ar agor. Byddai hefyd yn golygu y byddai caffi ar gael ar y safle ac amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol a fyddai’n cael eu rhannu gyda’r Gwasanaeth Llyfrgell. Byddai’r llyfrgell ar lawr gwaelod yr adeilad, gan ddarparu mynediad gwell o lawer i’r rhai ag anableddau, rhai â phroblemau symudedd neu rai sy’n defnyddio pramiau.
Bydd adleoli’r Ganolfan Groeso i Venue Cymru yn golygu y bydd adeilad sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant a thwristiaeth, gyda maes parcio ar y safle, ar gael i ymwelwyr. Bydd modd i gwsmeriaid ddefnyddio’r caffi yn yr adeilad hefyd wrth i’r staff eu helpu gyda’u hymholiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant: “Mae’r celfyddydau a diwylliant yn bwysig iawn wrth ddarparu effaith economaidd gadarnhaol ac wrth gefnogi lles ein cymunedau. Mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar bob opsiwn er mwyn helpu i ddiogelu a gwella dyfodol ein gwasanaethau.”
Os bydd y Cynghorwyr yn cytuno i’r ymgynghoriad, disgwylir iddo ddechrau yn nes ymlaen yn ystod yr haf, a bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno i Gynghorwyr er mwyn iddynt wneud penderfyniad yn ddiweddarach eleni.
Nodiadau:
Mae Venue Cymru’n croesawu ymwelwyr o’r DU ac yn rhyngwladol bob blwyddyn, gan ddarparu dros £30 miliwn mewn budd economaidd i fusnesau lleol, yn ogystal â chynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol cyffrous i ymwelwyr a’r gymuned leol.
Bydd adroddiad y Cabinet yn cael ei gyhoeddi yma: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024, 10.00 am
Wedi ei bostio ar 09/07/2024