Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Hoffem glywed gennych chi

Hoffem glywed gennych chi!


Summary (optional)
start content

Hoffem glywed gennych chi!

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dymuno cynnwys safleoedd yn yr ardaloedd canlynol yn y Cynllun Datblygu Lleol nesaf. Bydd y cynllun hwn yn sail i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar y safle yn y dyfodol. 
Hoffem wahodd preswylwyr a chynrychiolwyr cymunedol i ymuno â ni yn y digwyddiadau lleol i drafod pob safle. 
Cynhelir dau ddigwyddiad ar gyfer pob safle, digwyddiad ar-lein a gweithdy wyneb yn wyneb. I gael rhagor o wybodaeth ac er mwyn archebu eich lle, cliciwch ar y dolenni isod.  

Llanrwst 
Digwyddiad Ar-lein: Dydd Iau, 9 Tachwedd, 10am-11.30am. 
Gweithdy: Nos Iau, 16 Tachwedd, 5.30pm-7.30pm yng Nglasdir.

Llanddulas 
Digwyddiad Ar-lein: Dydd Mercher, 15 Tachwedd, 10am-11.30am. 
Gweithdy: Nos Fercher, 22 Tachwedd, 5.30pm-7.30pm yn Ysgol Llanddulas. 
Gweithdy: *Nos Iau, 23 Tachwedd 5.30pm-7.30pm, Neuadd Bentref Llysfaen. *digwyddiad ychwanegol

Llanfairfechan 
Digwyddiad Ar-lein: Dydd Llun, 20 Tachwedd, 10am-11.30am. 
Gweithdy: Nos Iau, 7 Rhagfyr 2023, 5.30pm-7.30pm yn Neuadd Gymunedol Llanfairfechan.

Hen Golwyn 
Digwyddiad Ar-lein: Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2024, 10am-11.30am. 
Gweithdy: Nos Fercher, 10 Ionawr 2024, 5.30pm – 7.30pm, Eglwys Festival - wedi'i archebu'n llawn.
Gweithdy: *Dydd Llun, 22 Ionawr 2024, 4pm-6pm, yn Lolfa Conwy, Parc Eirias. (*digwyddiad ychwanegol) 
Gweithdy: *Nos Llun, 22 Ionawr 2024, 6pm-8pm, yn Lolfa Conwy, Parc Eirias. (*digwyddiad ychwanegol) 

Llanrhos 
Digwyddiad Ar-lein: Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2024, 10am-11.30am. 
Gweithdy: *Nos Fawrth, 23 Ionawr 2024, 2.00pm-4.00pm, Hen Ysgol Llanrhos (*digwyddiad ychwanegol) 
Gweithdy: Nos Fawrth, 23 Ionawr 2024, 5.30pm-7.30pm, Hen Ysgol Llanrhos

Os na fyddwch yn gallu mynychu eich digwyddiad lleol, anfonwch eich sylwadau at deb@planningaidwales.org.uk neu ffoniwch 02920 625004 erbyn Dydd Gwener, 19 Ionawr 2024.

 

Beth i’w ddisgwyl 
Bydd y digwyddiad ar-lein a’r digwyddiadau wyneb yn wyneb yn cynnwys trafodaethau strwythuredig ynghylch barn y gymuned am y safle. Cynhelir y trafodaethau hyn am hyd cyfan yr amser a hysbysebir.

Bydd trafodaethau’n cynnwys pynciau megis cynllun a mynediad i’r safle, graddfa’r hyn sy’n cael ei gynnig a materion sy’n bwysig i’r gymuned. 

Sylwch y bydd y digwyddiadau’n cael eu hwyluso gan Cymorth Cynllunio Cymru. Er mwyn annog sgwrs agored, ni fydd Swyddogion Conwy yn bresennol. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal digwyddiadau ymgynghori â’r cyhoedd ffurfiol ar y CDLl Newydd i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Bydd dyddiadau’r rhain yn cael eu rhyddhau ar ein gwefan.

Yn dilyn y digwyddiadau, bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn llunio crynodeb o’r holl adborth ac yn ei gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’w ystyried.

Meddai’r Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl): “Byddwn yn annog preswylwyr lleol i gymryd rhan, dysgu mwy a rhannu eu barn gyda ni am y cynigion hyn.”

Wedi ei bostio ar 06/11/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content