Ymgeiswyr Senedd Ieuenctid Cymru
Mae’n bleser gan Gyngor Ieuenctid Conwy rannu fod rhai o’i Aelodau yn sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru. Os cânt eu hethol, bydd cyfle iddynt gynrychioli Conwy a darparu llais ar gyfer pobl ifanc ar draws Cymru.
Rhaid i chi fod yn 11 i 17 oed ac un ai’n byw, neu’n cael eich addysg yng Nghymru i bleidleisio yn Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru.
Dim ond ychydig o funudau y mae’n ei gymryd i gofrestru, ac anogir pobl ifanc i wneud hyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod cod pleidleisio’n cyrraedd mewn pryd.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 20 Tachwedd, a chynhelir y bleidlais hyd at 25 Tachwedd.
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru a phleidleisio, ewch i : Senedd Ieuenctid Cymru
Wedi ei bostio ar 13/11/2024