Eich eiddo chi, eu cartref nhw
Ydych chi’n berchen ar eiddo? A hoffech ei osod ar brydles i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a helpu i ddiwallu’r angen mawr am lety yn eich cymuned?
Rydym yn chwilio am berchnogion eiddo a landlordiaid i ymuno â’n Cynlluniau Prydlesu Sector Preifat. Dyma gyfle gwych i osod eich eiddo ar brydles i’w ddefnyddio fel llety dros dro neu ddod yn rhan o gynllun prydlesu Llywodraeth Cymru.
Diddordeb? Cysylltwch â ni heddiw drwy e-bostio leasing@cartreficonwy.org i gael gwybod mwy am ffyrdd o weithio â ni i wneud gwahaniaeth!
Wedi ei bostio ar 21/01/2025