Aelodau o'r Gwasanaeth Ieuenctid yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelu
Mae pobl ifanc sy’n rhan o sesiynau Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi bod yn canolbwyntio ar nodi Wythnos Ddiogelu (13-17 Tachwedd). Gofynnwyd iddynt gyflwyno darn o waith celf ar y thema ‘Beth sy’n gwneud i mi deimlo’n ddiogel’.
Cafodd y gwaith ei feirniadu gan y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Ieuenctid, y Cynghorydd Hannah Fleet a’r Cynghorydd Elizabeth Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu.
Cafodd yr holl waith argraff fawr ar y beirniaid a dewiswyd Bella Lehart o glwb ieuenctid Peulwys fel enillydd. Cafodd Amy Woodbridge o glwb ieuenctid Bae Cinmel yr ail wobr a daeth Lily Gill o glwb ieuenctid Bae Cinmel yn drydydd.
Bydd y tri darn buddugol yn cael eu troi’n ddigidol a’u harddangos yn adeiladau cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus. I wybod mwy am ddiogelu ewch i: https://www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru/
Mae tua 300 o unigolion, rhwng 11 a 25 oed yn cymryd rhan yn sesiynau Gwasanaeth Ieuenctid Conwy ledled y sir bob wythnos. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Gwasanaeth Ieuenctid Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 17/11/2023