Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ysgol Aberconwy becomes a silver Siarter Iaith Cymraeg Campus Uwchradd in a first for North Wales

Ysgol Aberconwy yr ysgol gyntaf yng Ngogledd Cymru i Ennill Gwobr Arian Cymraeg Campus y Siarter Iaith Uwchradd


Summary (optional)
start content

Ysgol Aberconwy yr ysgol gyntaf yng Ngogledd Cymru i Ennill Gwobr Arian Cymraeg Campus y Siarter Iaith Uwchradd

Ysgol Aberconwy yw’r ysgol gyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill gwobr Arian Cymraeg Campus fel rhan o’r Siarter Iaith Uwchradd.

Cafodd Gwobr newydd y Siarter Iaith ar gyfer ysgolion Uwchradd, Cymraeg Campus, ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni.  Mae’n cydnabod yr ymdrechion a’r ffyrdd y gall ysgolion uwchradd ysbrydoli ac annog dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol ac ym mhob agwedd arall o’u bywydau.

Mae’r cynllun wedi bod yn weithredol mewn ysgolion cynradd ers 2014, ac o fis Medi, gall ysgolion uwchradd ennill gwobrau Efydd, Arian ac Aur. 

Ddydd Mawrth, 25 Mehefin, agorodd Ysgol Aberconwy ei drysau ar gyfer Diwrnod Agored arbennig yr Iaith Gymraeg, i ddathlu ac arddangos y gwaith sydd wedi’i wneud i wella a hyrwyddo’r iaith a’r ethos Gymraeg yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf. 

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd y Wobr Arian i’r ysgol gan Meinir Thomson a Heledd Morgan o Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal, Angharad Brookes, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Aberconwy, oedd enillydd cystadleuaeth genedlaethol dylunio logo’r Siarter Iaith Uwchradd.  Cyflwynwyd ei gwobr iddi yn y diwrnod agored. 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr ysgol ar ennill y Wobr. Meddai, “Rwy’n falch iawn bod Ysgol Aberconwy wedi ennill y wobr hon. Mae’n adlewyrchiad o waith caled pawb yn yr ysgol er mwyn helpu pobl ifanc i elwa o ddefnyddio mwy o’u Cymraeg.”

Meddai Mrs Luned Davies Parry, Dirprwy Bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Aberconwy a Chydlynydd Cymraeg Campus y Siarter Iaith Uwchradd, “Mae wedi bod yn fraint cael peilota Gwobr newydd y Siarter Iaith ar gyfer Ysgolion Uwchradd, Cymraeg Campus, ar gyfer ysgolion Conwy, yn ogystal ag ysgolion uwchradd eraill yng Ngogledd Cymru. Agorwyd ein drysau i’n hysgolion uwchradd cyfagos, i’n hysgolion uwchradd sy’n bellach i ffwrdd, i’n hysgolion cynradd clwstwr ac i asiantaethau allanol fel yr Urdd, y Fenter Iaith a’r Mudiad Meithrin, i enwi dim ond rhai. Rydym wedi arddangos popeth rydyn ni wedi’i wneud i godi proffil y Gymraeg yn Ysgol Aberconwy a chynhaliwyd taith o amgylch yr ysgol!”

Mae gan Ysgol Aberconwy fentrau megis Gwobrau Iaith Adrannol, cynllun pwrpasol sy’n darparu fframwaith clir i athrawon hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd gyda dysgwyr. Mae’r ysgol hefyd yn cynnal Eisteddfod Ysgol yn flynyddol ym mis Mawrth a gall dysgwyr o bob oed gyfarfod yn ystod amser cinio yn y Caban, ystafell liwgar, unigryw a modern, i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Meddai Elen Môn Williams, Cydlynydd Cymreictod a Dwyieithrwydd Ysgol Aberconwy, “Hoffwn ddiolch i’r myfyrwyr sy’n rhan o’r ‘Criw Cymraeg’ am eu holl ymdrechion. Trwy eu cefnogaeth a’u hanogaeth, mae’r Gymraeg bellach yn ffynnu yn yr ysgol.”

Meddai Mr Ian Gerrard, y Pennaeth, “Rydym yn falch iawn o’r wobr hon, sy’n ategu’r wobr Efydd y bu i ni ei hennill ym mis Medi 2023. Mae’n dyst i waith caled a brwdfrydedd y disgyblion wrth gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.  Rydyn ni nawr yn rhoi cynlluniau ar waith i weithio tuag at y Wobr Aur!”

 

Wedi ei bostio ar 10/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content